Ehangu Ysgol Bryn Derw

Ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu capasiti Ysgol Bryn Derw o 40 o leoedd o fis Medi 2025

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig canlynol:

Cynyddu capasiti Ysgol Bryn Derw o 40 o leoedd o fis Medi 2025;

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)

Ymgynghoriad

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 4 Medi 2024 a 16 Hydref 2024.

Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor a bydd yn cael ei ystyried pan fydd y cyngor yn penderfynu ar y cam nesaf.

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)

Lawrlwythwch fersiwn gryno bob dydd o’r ddogfen ymgynghori (pdf)

Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys 2 sesiwn galw heibio gyda'r rhai y mae'r cynnig yn effeithio arnynt, a bydd swyddogion y cyngor ar gael i egluro'r cynigion yn fanylach ac ateb unrhyw gwestiynau:

Sesiynau galw heibio
Lleoliad Dyddiad ac amser
Ysgol Bryn Derw, Ffordd Melfort Dydd Mawrth 17 Medi, 9.30am Galw heibio
Ysgol Bryn Derw ym Mharc Kimberley, Blaen-Y-Pant Crescent  Dydd Mawrth 24 Medi, 3.39pm Galw heibio

Gellir cyflwyno cwestiynau drwy e-bost i [email protected] a bydd swyddogion y cyngor fel arfer yn darparu ymateb o fewn 7 diwrnod.

Dylid cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad drwy’r ffurflen ymateb ar-lein.

Cwblhewch yr arolwg

Gellir dychwelyd ymatebion hefyd drwy e-bost i [email protected]. Fel arall, gellir dychwelyd y ffurflen i'r Swyddog Gwybodaeth a Datblygu Addysg, Ystafell 425g, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR. Dylai ymatebion i'r ymgynghoriad a gyflwynir drwy'r cyfeiriad e-bost uchod gael eu nodi'n glir fel ymatebion i'r ymgynghoriad. Dim ond ymatebion a gyflwynir gan ddefnyddio'r dulliau hyn fydd yn cael eu hystyried fel ymatebion i'r ymgynghoriad.

Gellir archebu copïau ffisegol o'r pecyn ymgynghori drwy e-bostio [email protected] neu drwy ffonio 01633 656656.

Ni fydd unrhyw ymatebion negyddol a gesglir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i'r cynnig. Yn hytrach cânt eu cyfrif fel sylwadau andwyol. Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben am hanner nos 16 Hydref 2024.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, bydd adroddiad ymgynghori yn cael ei baratoi sy'n crynhoi'r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y cyngor i'r sylwadau hyn.

Wedyn, bydd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar yn ystyried y safbwyntiau a fynegwyd ac wedyn, yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynnig. Os penderfynir bwrw ymlaen, bydd cynnig statudol yn cael ei gyhoeddi. Bydd cyfnod statudol y cynnig yn para 28 diwrnod yn dilyn y dyddiad cyhoeddi a bydd yn galluogi pobl i fynegi eu barn, i gefnogi neu wrthwynebu'r cynigion. Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn cyhoeddi'r cynnig statudol, bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen. Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau a heb eu tynnu'n ôl wedyn yn ystod y cyfnod hysbysu hwn, bydd cabinet y cyngor yn penderfynu ar y penderfyniad terfynol.