Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i bob ysgol a chorff cyhoeddus hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau cymunedol da a dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth rhwng pobl ar sail y naw nodwedd warchodedig, sef:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Ymgynghoriad Strategaeth Hygyrchedd i Ysgolion 2024-2027
Mae Strategaeth Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd 2024-2027 yn nodi sut y bydd y cyngor yn cynyddu hygyrchedd ein hysgolion i ddisgyblion ag anableddau.
Bydd y strategaeth yn anelu at wella:
- sut mae disgyblion anabl yn cymryd rhan yng nghwricwlwm
- yr ysgolamgylchedd yr ysgolion
- sut mae disgyblion, gofalwyr a theuluoedd yn cyrchu gwybodaeth
- cyfathrebu a thryloywder
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan ddydd Llun 16 Medi 2024.
Cwblhewch ein harolwg ar-lein
Lawrlwythwch y Strategaeth Hygyrchedd Drafft ar gyfer Ysgolion 2024-27 (pdf)
Lawrlwythwch y Strategaeth Hygyrchedd Drafft ar gyfer Ysgolion 2024-27 Hawdd ei Deall (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at [email protected].
Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r Ddyletswydd Anableddau
Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gofyn i gyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, hybu cydraddoldeb i bobl anabl ym mhob agwedd ar eu gwaith.
Mae’r ddyletswydd gydraddoldeb:
- yn gofyn i ysgolion fabwysiadu dull rhagweithiol, gan ymgorffori cydraddoldeb anableddau ym mhob penderfyniad a gweithgaredd
- yn berthnasol i ddisgyblion anabl sydd mewn addysg ac mewn unrhyw wasanaethau nad ydynt yn rhai addysgiadol, megis clybiau ar ôl ysgol, teithiau ysgol ac ati
- yn berthnasol i holl rieni, aelodau staff ac ymwelwyr yr ysgol, aelodau'r gymuned leol a disgyblion posibl yn y dyfodol
Cynlluniau hygyrchedd
Mae’n rhaid i'r cyngor roi strategaeth hygyrchedd ar waith, ac mae’n rhaid i bob ysgol weithredu cynllun hygyrchedd cyfatebol.
Strategaeth Hygyrchedd i Ysgolion 2019-2024 (pdf)
Er bod y cynllun hygyrchedd yn wahanol i gynllun cydraddoldeb strategol, gellir ei gyhoeddi fel rhan ohono, neu fel rhan o ddogfen arall megis y cynllun datblygu ysgol neu'r cynllun gwella ysgol.
Gall archwiliadau ESTYN gynnwys cynllun hygyrchedd ysgol fel rhan o’u hadolygiad.
Rhaid i’r cynllun ddangos sut mae'r ysgol yn:
- Gwella cyfranogiad disgyblion anabl yn y cwricwlwm
- Gwella amgylchedd ffisegol ysgolion i alluogi'r rheiny ag anableddau i fanteisio ar addysg, buddiannau, cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir
- Gwella mynediad at wybodaeth
Bydd angen i ysgolion ddarparu adnoddau digonol i weithredu cynlluniau a rhaid iddynt eu hadolygu'n rheolaidd.