Apelau derbyn i ysgolion
Os bydd lle mewn ysgol yn cael ei wrthod i chi, cewch lythyr penderfyniad yn esbonio pam ac yn rhoi gwybodaeth am eich hawl i apelio - nid oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad ar dderbyn i ddarpariaeth feithrin.
I apelio, rhaid i chi lenwi’r ffurflen a anfonir gyda’ch llythyr penderfyniad, yn amlinellu’r rhesymau pam ddylai eich plentyn gael ei dderbyn i’r ysgol rydych chi’n ei ffafrio.
Yna, dylech anfon y ffurflen hon i’r cyngor erbyn y dyddiad cau i sicrhau bod yr apêl yn cael ei chlywed.
Pan fyddwn yn cael yr apêl, cewch ragor o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl a dyddiad ac amser ar gyfer y gwrandawiad.
Rhaid trefnu apelau o fewn 30 diwrnod gwaith o’r dyddiad cau oni bai bod y cais yn cael ei wneud y tu allan i’r cylch derbyniadau arferol; os felly, rhaid trefnu bod yr apelau’n cael eu cynnal o fewn 30 diwrnod gwaith o’r dyddiad pan ddaw’r apêl i law.
Mae paneli apelau derbyn yn annibynnol ac yn helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng hawl rhieni i wrandawiad llawn a theg, ac amddiffyn ysgolion rhag derbyn cynifer o blant fel bod hynny’n effeithio ar yr addysg neu ar ddefnydd effeithlon o adnoddau.
Ym mhob achos, cewch benderfyniad y panel yn ysgrifenedig; mae’r penderfyniad hwn yn derfynol ac yn rhwymo pob parti.
Cysylltwch â [email protected] neu [email protected]