Ysgolion Iach
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru (RhCYIC) sydd â’r nod o hyrwyddo iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a’r cymuned cyfan mewn ysgolion ledled Cymru.
Cydnabyddir y Cynllun Ysgolion Iach gan y Sefydliad Iechyd y Byd ac mae’n rhan o Ysgolion Hybu Iechyd Ewrop.
Mae ysgolion sy’n derbyn gwobr ansawdd genedlaethol RhCYIC wedi dangos eu bod wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant ac iechyd corfforol, meddwl a chymdeithasol i holl aelodau’r ysgol a’r gymuned leol.
Y nod yw i ysgolion:
- hyrwyddo hunanhyder
- datblygu perthnasau da
- annog ethos cadarnhaol
- sicrhau cysylltiadau da â’r ysgol/y cartref/y gymuned
- gorfodi polisïau i adlewyrchu y cwricwlwm addysg iechyd, ac
- annog datblygiad a hyfforddiant staff
Meysydd gweithredu i ysgolion yw:
- bwyd a ffitrwydd
- iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol
- datblygu personol a pherthnasoedd
- defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
- yr amgylchedd
- diogelwch
- hylendid
Ysgolion Iach yng Nghasnewydd
Mae 8 ysgol GAG yng Nghasnewydd:
- Ysgol Gynradd Eveswell
- Ysgol Gynradd Llyswyry
- Ysgol Gynradd Langstone
- Ysgol Gynradd Clytha
- Ysgol Gynradd Llys Malpas
- Ysgol Gynradd Maendy
- Ysgol Gymraeg Casnewydd
- Fairoak Nursery
Mae ysgolion eraill yn gweithio i ennill y wobr.
Mentrau Casnewydd
Mae’r cynlluniau canlynol wedi’u cyflwyno mewn ysgolion yng Nghasnewydd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill:
- Cynllun teithio llesol ysgolion
- Polisi bwyd a ffitrwydd
- Gweithdai coginio i deuluoedd
- Milltir ddyddiol
- Hyrwyddo'r Ras Parc i’r Ieuenctid
- Hyfforddiant gwobr Gweithwyr Chwarae
- Wythnos ysgolion iach
- Mynediad at ddigwyddiadau chwaraeon lleol a chenedlaethol
- Cyngor ysgol
- Clybiau eco
- Rhaglenni gweithgareddau allgyrsiol
- Rhaglen Cynllun Gwên
Manylion Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm polisi, partneriaeth ac ymglymiad.
TRA92700 22/10/2018