Presenoldeb yn yr ysgol

Mae gan bob rhiant a gofalydd ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

Llinell Gymorth Triwantiaeth 0800 1412139

Gall plant sy'n colli ysgol ddisgyn tu ôl gyda'u gwaith a bod yn llai llwyddiannus mewn arholiadau.

Lawrlwythwch Polisi Presenoldeb yn yr Ysgol y Cyngor (pdf)

Lawrlwythwch ein hysbysiad preifatrwydd cwnsela mewn ysgolion (pdf)

Mae ysgolion ar agor i ddisgyblion 190 o ddiwrnodau’r flwyddyn, sy’n golygu bod 175 o ddiwrnodau i fynd ar wyliau, gorffwys ac apwyntiadau nad ydynt yn argyfwng.

Mae presenoldeb da yn golygu bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i:  

  • ddal i fyny â’u gwaith ysgol
  • gwneud cynnydd yn ôl yr hyn a ddisgwylir
  • cyfarfod â ffrindiau i ddysgu a chwarae
  • dysgu arferion da ar gyfer bywyd fel oedolyn megis presenoldeb rheolaidd a chyrraedd ar amser

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Cymru hysbysiad cosb benodedig a dirwyon ar gyfer rhieni y mae eu plant yn cael phum diwrnod o absenoldeb anawdurdodedig.

Gellir cyhoeddi’r hysbysiad am unrhyw absenoldebau nad ydynt wedi’u hawdurdodi gan yr ysgol, gan gynnwys gwyliau.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno’r hysbysiadau hyn pan fynegir pryderon gan yr ysgol neu’r heddlu.

Y ddirwy yw £120, neu £60 os bydd yn cael ei dalu o fewn 28 diwrnod.

Lawrlwytho Canllaw ar Hysbysiadau Cosb Benodedig Addysg (pdf) y Cyngor

Lawrlwytho Cod Ymddygiad Lleol Hysbysiadau Cosb Benodedig Addysg (pdf) 

Diwrnod olaf yn yr ysgol

Y diwrnod olaf yn yr ysgol i ddisgyblion blwyddyn 11 fydd dydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd dan sylw.

Wedi’r dyddiad hwn, gall person ifanc gael gwaith llawn amser yn gyfreithiol.

Darllen am reoliadau gwaith i blant

Darllen am drwydded perfformio i blant

Gwneud cais am ganiatâd chaperone

Cysylltu

Os bydd eich plentyn yn absennol o’r ysgol am unrhyw reswm, cysylltwch â’r ysgol i egluro hynny.

I gael help a chyngor, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 

Dogfennau

Hysbysiad preifatrwydd - Gwasanaeth lles addysg - plant ar goll mewn addysg (pdf)

Hysbysiad preifatrwydd - Gwasanaeth Lles Addysg - Addysg ddewisol gartref (pdf)

Hysbysiad preifatrwydd - Gwasanaeth lles addysg - Presenoldeb (pdf)