Mapiau teithio llesol
Gweld llwybrau teithio llesol Casnewydd
Mae ein map rhwydwaith teithio llesol yn dangos pob llwybr teithio llesol yn y ddinas, gan gynnwys llwybrau troed/beic a rennir, llwybrau beicio ar y ffordd, llwybrau troed, strydoedd wedi’u tawelu gan draffig, a mwy.
Lawrlwythwch a gweld ein map rhwydwaith (pdf)
Gallwch weld llwybrau presennol ac arfaethedig ar Fap Data Cymru, gwasanaeth mapiau ar-lein Llywodraeth Cymru.
Bydd safle Map Data Cymru hefyd yn dangos llwybrau teithio llesol i chi o bob rhan o Gymru.
Gwelwch map rhyngweithiol Map Data Cymru
Beicio
Mae gan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol amrywiaeth o fapiau rhyngweithiol sy'n dangos lle gallwch deithio ar draws y ddinas a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain.
Ewch i wefan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau
Gan ddefnyddio cronfa Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru, bu Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda Sustrans i greu set o fapiau teithio llesol sy'n canolbwyntio ar dair ysgol leol a dros y ddinas.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y prosiect ym mhob ysgol, ynghyd â chopïau o'r mapiau, drwy glicio ar y dolenni isod
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas
Ysgol Gynradd Parc Tredegar