Ymgynghoriad teithio llesol 2024
Hoffem gael eich barn ar wella cerdded, beicio, ac olwynion rhwng Devon Place a llwybr beicio Crindau Pill (Llwybr Beicio Cenedlaethol 88) i’r gogledd o Orsaf Drenau Casnewydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen we ar gyfer ymgynghoriad teithio llesol.
Gwelwch ar ein mapiau i ddod o hyd i'ch llwybr agosaf
Beth yw teithio llesol?
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio ar wneud teithio llesol y ffordd orau o deithio o gwmpas pellteroedd byrrach.
Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau cerdded a beicio, yn ogystal ag ar gadair olwyn, sgwteri symudedd, beiciau wedi'u haddasu, e-feiciau, a sgwteri gwthio.
Mae gan deithiau teithio llesol gyrchfan bwrpasol, er enghraifft, teithiau i'r ysgol, gwaith a siopau, neu i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill.
Ddim yn mynd yn bell? Gadael y car! Ewch i'n canllaw dechrau arni am ragor.
Teithio cynaliadwy
Mae dewis teithio llesol ar gyfer teithiau byr yng Nghasnewydd yn ffordd wych, rhad o hybu eich iechyd corfforol a meddyliol, cysylltu â’r ddinas a lleihau effaith carbon teithiau bob dydd.
Dysgwch fwy am sut mae teithio a thrafnidiaeth yn effeithio ar ansawdd aer ar ein tudalen teithio cynaliadwy.
Sut mae teithio cynaliadwy yn helpu i wella ansawdd aer
Siarter teithio iach Gwent
Mae’r cyngor hefyd wedi ymrwymo i siarter teithio iach Gwent. Mae'r siarter yn nodi ein hymrwymiad i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy a llesol o fewn ein sefydliad.
Darllenwch fwy am y siarter