Cynllunio llwybrau
Cynlluniwch eich llwybr a’ch taith o’ch blaen gan ddefnyddio cynllunydd teithio a mapiau sy'n dangos llwybrau teithio llesol lleol o amgylch Casnewydd.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Gellir defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis yng Nghasnewydd i ymestyn eich ystod o deithiau heb gar.
Beicio
Mae gan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol amrywiaeth o fapiau rhyngweithiol sy'n dangos lle gallwch deithio ar draws y ddinas a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain.
Ewch i wefan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau
Gan ddefnyddio cronfa Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru, bu Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda Sustrans i greu set o fapiau teithio llesol sy'n canolbwyntio ar dair ysgol leol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y prosiect ym mhob ysgol, ynghyd â chopïau o'r mapiau, drwy glicio ar y dolenni isod
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas
Ysgol Gynradd Parc Tredegar