Teledu Cylch Cyfyng
Mae teledu cylch cyfyng (CCTV) Cyngor Dinas Casnewydd yn system 'dolen gaeedig', sy'n golygu bod lluniau ar gael i'r rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r ystafell reoli teledu cylch cyfyng yn unig.
Fe'i gweithredir gan ddefnyddio canllawiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a Swyddfa'r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth.
Cynllun teledu cylch cyfyng
Prif amcanion y cynllun teledu cylch cyfyng yw:
- canfod ac atal troseddau (gan gynnwys troseddau i gerbydau)
- darparu tystiolaeth i gefnogi ymchwiliadau'r heddlu
- annog troseddwyr posibl i beidio
- lleihau ofn troseddu a rhoi hyder i'r cyhoedd eu bod mewn amgylchedd diogel
- darparu cymunedau mwy diogel a lleihau gweithredoedd o fandaliaeth
- helpu i adnabod ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol
- cefnogi rheoli traffig (ond nid gorfodi)
Rhannu gwybodaeth
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau eraill. Gallai hyn fod am un o'r rhesymau uchod, neu am resymau cyfreithiol. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys:
- asiantaethau gorfodi mewnol ac allanol, er enghraifft, Safonau Masnach neu CThEM
- cwmnïau yswiriant
- llysoedd a thribiwnlysoedd
- asiantaethau gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys yr heddlu
- Ombwdsmon ac awdurdodau rheoleiddio.
- gwasanaethau tân ac achub
Os bydd y cyngor yn datgelu gwybodaeth, caiff ei wneud yn unol â:
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
- Deddf Diogelu Data 2018
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch data
Efallai y byddwn yn defnyddio'ch data am sawl rheswm, er enghraifft i:
- darparu tystiolaeth mewn achosion troseddol neu sifil
- atal a lleihau trosedd ac anhrefn
- cefnogi ymchwilio a chanfod troseddau, neu i adnabod tystion
Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer cadw a phrosesu eich data yn dod o dan:
- Adran 163 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
- Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
- Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
- Deddf Gweithdrefn ac Ymchwilio Troseddol 1996
- Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
Cwynion
I gael gwybodaeth am eich hawliau, a sut i wneud cwyn i'r cyngor neu'r ICO, ewch i'n tudalen diogelu data.
Dogfennau
Lawrlwytho’r Cod Ymarfer ar Deledu Cylch Cyfyng (pdf)
Lawrlwytho’r Canllaw Gweithdrefnol ar Deledu Cylch Cyfyng (pdf)