Cŵn Strae
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod cŵn yn gwisgo coler gyda disg ynghlwm wrtho, ag enw a chyfeiriad ar y ddisg.
Mae unrhyw gŵn strae y deuir o hyd iddyn nhw yng Nghasnewydd yn cael eu cludo i Gartref Cŵn Dinas Casnewydd a bydd gan berchennog saith niwrnod i hawlio’r ci yn ôl.
Mae ein gwasanaeth casglu cŵn strae ar gael rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch (01633) 656656 / 656667 i gael gwybod beth sy'n rhaid i chi ei wneud cyn mynd â'r ci i Gartref Cŵn Dinas Casnewydd.
I roi gwybod am gi strae defnyddiwch y ddolen isod neu ffoniwch.
Gellir hefyd gosod microsglodyn mewn ci. Dull o roi rhif adnabod unigol parhaol i gi sy’n cael ei ychwanegu at y Gofrestr PetLog yw hwn.