Pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Dod o hyd i bwyntiau gwefru

Defnyddiwch Zap Map i chwilio am leoliadau, brandiau, mathau ac argaeledd pwyntiau gwefru.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y meysydd parcio canlynol:

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan 

 Lleoliad 

 Nifer a math  

Rhwydwaith gwefru 

 

Cod post
 

Canolfan Ddinesig  

 1 deuol (Araf)

 Pod Point

NP20 4UR

Park Square 

 2 sengl (Araf) 

 Pod Point

NP20 1LX

Glan yr Afon   

 1 deuol, 1 sengl (Cyflym a Chwim) 

 Dragon Charging

NP20 1HG

Belle Vue 

1 deuol, 1 sengl (Cyflym a Chwim) 

 Dragon Charging

NP20 4FP

 Faulkner Road 

 4 deuol (Cyflym)

 Dragon Charging

NP20 4PR

 Maindee

 3 deuol (Cyflym)

 Dragon Charging

NP19 8FJ

 Stow Hill

 2 deuol (Cyflym)

 Dragon Charging

NP20 4DW

 Mill Parade

 2 deuol (Cyflym)

 Dragon Charging

NP20 2JS

 Tŷ-du

 2 deuol (Cyflym)

 Dragon Charging

NP10 9LG

 Ffordd y Brenin

 2 deuol (Cyflym)

 Franklin LiFe

NP20 1EU

Parc Tredegar

2 deuol (Cyflym)

Dragon Charging

NP20 3AJ

Pedwar ar ddeg o lociau

1 deuol (Chwim)

Dragon Charging

NP10 9GN

Cornel Pye 2 deuol (Cyflym) Dragon Charging NP10 9DS
Hollybusg 2 deuol (Cyflym) Dragon Charging NP20 6ES

 

  • Araf = 6-8 awr amser gwefru bras
  • Cyflym = 3-4 awr amser gwefru bras
  • Cyflym = 30 munud amser gwefru bras

Sut rydw i'n gwefru fy nghar?

Bydd angen cebl plwg-i-blwg cydnaws arnoch chi y dylid ei gyflenwi gyda'ch cerbyd.

Creu cyfrif

Yn dibynnu ar frand y gwefrydd, darperir mynediad i wefru gan gerdyn RFID neu drwy wefan neu ap lle gallwch sefydlu eich cyfrif. Gallwch sefydlu eich cyfrif gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Ewch i Wefan DragonCharging

Ewch i App neu wefan PodPoint

Defnyddio pwynt gwefru

Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich cyfrif mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r pwyntiau gwefru ar gael ar y wefan neu'r ap rydych yn ei ddefnyddio. Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau cyfarwyddiadau isod:

Cyfarwyddiadau DragonCharging

Cyfarwyddiadau Podpoint

Pan fydd y car wedi’i wefru’n llawn, bydd y gwefru yn stopio’n awtomatig.

Gellir ymyrryd yn y gwefru neu ei stopio ar unrhyw adeg drwy gyflwyno'r cerdyn RFID neu drwy roi gorchymyn drwy raglen ffôn clyfar.

Beth yw’r gost?

Ar gyfer Dragon Charging codir tâl o 65c y kWh.

Gellir gwneud taliadau drwy wefan Rhwydwaith Dragon Charging.

Pan fyddwch yn ymuno â Rhwydwaith DragonCharging, bydd gennych hefyd fynediad i'r Rhwydwaith Genie gyda dros 400 o bwyntiau gwefru ledled y DU.

Os oes gennych gyfrif Geniepoint eisoes, gallwch gael mynediad i'r DragonChargers gan ddefnyddio eich cyfrif Geniepoint neu gerdyn.

Gellir dod o hyd i gostau ar gyfer pwyntiau gwefru eraill ar Zap Map.

Ffioedd parcio: bydd angen i chi dalu i barcio wrth wefru’ch car mewn maes parcio talu ac arddangos, gwiriwch a thalwch y tariff a ddangosir.

Problemau cynnal a chadw ac adrodd

Mae Silverstone Green Energy yn cynnal ac yn gweithredu'r gwefrwyr sy'n rhan o Rwydwaith Dragon Charging ar ran y cyngor.

Defnyddiwch y llinell gymorth 24 awr i roi gwybod am unrhyw broblemau gyda phwynt gwefru:

(01834) 474480

e-bost [email protected]

Mae'r gwefrwyr a osodwyd yng Nghasnewydd cyn 2019 ar rwydwaith gwahanol, defnyddiwch rifau'r llinell gymorth isod:

PodPoint, 020 7247 4114, e-bost [email protected]

Cyllid 

Mae cynghorau Gwent wedi llwyddo i gael cyllid grant gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (SCAL) ar gyfer hyd at 75% o’r gost i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi defnyddio arian o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i ariannu'r gwefrwyr SCAL ac i ariannu seilwaith gwefru ychwanegol. 

Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.