Daeth y cyfrifoldeb dros orfodi parcio ar y stryd i Gyngor Dinas o Heddlu Gwent ar 1 Gorffennaf 2019.
Lawrlwythwch y Llawlyfr Gorfodi Parcio Sifil (pdf) i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythwch y Cwestiynau Cyffredin am Barcio Sifil (pdf)
Car Camera
O ddydd Llun 24 Awst 2020 bydd cerbyd gorfodi parcio symudol yn cael ei ddefnyddio ledled Casnewydd i helpu i leihau nifer y cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, mewn safleoedd bws ac ar groesfannau i gerddwyr.
Bydd yn hawdd adnabod y car hybrid, gyda’i gamerâu ar y to a logos amlwg yn dweud 'cerbyd gorfodi parcio'.
Swyddogion gorfodi sifil
Nid oes unrhyw newidiadau i’r rheoliadau parcio fel y’u nodir yn Rheolau'r Ffordd Fawr.
Darllenwch am y ddarpariaeth barcio yng Nghasnewydd
Mae tîm o swyddogion gorfodi sifil sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor yn gallu gorfodi’r holl gyfyngiadau parcio ar y briffordd gyhoeddus os yw cerbyd wedi’i barcio’n anghyfreithlon, gan gynnwys:
- parcio ar linellau melyn
- parcio’n hwy nag a ganiateir mewn mannau parcio
- parcio o flaen cyrbau isel
- parcio ymhellach na 50cm o ymyl y cwrbyn
Caiff tocynnau parcio (neu hysbysiadau tâl cosb) eu cyhoeddi gan swyddogion gorfodi sifil yn lle’r heddlu.
Nid oes gan swyddogion gorfodi sifil dargedau i gyflwyno nifer benodol o docynnau parcio.
Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu cyflwyno clampio neu symud cerbydau ar yr adeg hon.
Bydd cyfyngiadau traffig eraill yn parhau i gael eu gorfodi gan Heddlu Gwent, gan gynnwys troseddau traffig sy’n symud, parcio peryglus ac ati.
Rhoi gwybod am broblem parcio
Er na allwn ymateb ar unwaith, byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth i gynllunio patrolau ar gyfer y dyfodol
Dirwyon parcio
Darllenwch am ddirwyon parcio (hysbysiadau tâl cosb) a sut i dalu neu apelio.
Cynlluniau parcio i breswylwyr
Nid oes newid yng Nghasnewydd i gynlluniau parcio i breswylwyr yn sgil gorfodaeth parcio sifil.
Deiliaid Bathodynnau Glas
Nid yw gorfodi parcio sifil yn newid y rheolau ar gyfer parcio i ddeiliaid bathodynnau glas, a all barhau i dderbyn tocyn parcio am rai tramgwyddau parcio, cyfeiriwch at y llyfryn canllaw a gyhoeddwyd gyda'ch bathodyn glas i gael manylion.
Darllenwch am barcio anabl yng Nghasnewydd
Hysbysiadau Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Gorfodi Parcio Sifil (pdf.)
Hysbysiad Preifatrwydd Defnyddio Camerâu Corff Gorfodi Parcio Sifil (pdf.)