Mannau parcio i breswylwyr
Mae’n bosib y caiff mannau parcio i breswylwyr eu gweithredu i helpu preswylwyr i barcio’n haws ger eu cartrefi, pan fod cerbydau nad sy’n eiddo iddynt yn gwneud hyn yn anodd.
I’w ystyried ar gyfer cynllun parcio i breswylwyr, rhaid i strydoedd fod yn rhai preswyl yn bennaf heb barcio oddi ar y stryd ar gyfer mwyafrif y preswylwyr.
Wrth wneud cais cewch eich holi i:
- Gadarnhau fod yr ardal yn ardal breswyl yn bennaf heb barcio oddi ar y stryd
- Rhoi gwybodaeth ategol i ddangos fod mwy na 50% o aelwydydd yn yr ardal yn cytunoi â’r cynllun mewn egwyddor, e.e. wedi llofnodi deiseb gan breswylwyr
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dweud wrthych os caiff ei gymeradwyo.
Er nad oes cyllideb ar gael i gynlluniau newydd ar gyfer parcio i breswylwyr ar hyn o bryd, caiff ceisiadau eu hychwanegu i’r rhestr aros i’w hystyried yn y dyfodol.
Gwneud cais am gynllun parcio preswylwyr