Maes Parcio Park Square
Mae gan faes parcio aml-lawr Park Square 395 o leoedd parcio gyda rampiau llydan a lifftiau i’r stryd fawr, gyda mynediad hawdd i siopau.
Mae saith lle parcio i bobl anabl. Mae staff ar y safle o 9am tan 9pm.
Mae mynediad i gerddwyr ar gyfer Park Square ar gael o Commercial Street gyferbyn â Chanolfan Siopa Ffordd y Brenin rhwng 7am a 7pm.
Amseroedd agor
Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 6am – 9pm
Mae’r mynedfeydd yn cau am 8:30pm ac mae’r allfeydd yn cau am 9pm.
Cyfarwyddiadau
Gerllaw Eglwys Sant Paul, mae’r fynedfa i faes parcio Park Square o Commercial Street/Palmyra Place.
Gweld meysydd parcio ar fap My Newport
Prisiau
Hyd at 3 awr = £2.80
Hyd at 5 awr = £5.10
Dros 5 awr a hyd at 24 awr = £6.70