Sŵn domestig
Darllenwch sut rydyn ni'n delio â chwynion am sŵn
Ci yn cyfarth
Nid yw cyfarth cyson gan gi yn dderbyniol yn ôl y gyfraith ond cyn i chi gwyno i'r cyngor, dylech fynd at eich cymydog i esbonio'r sefyllfa - efallai na fydd yn gwybod bod problem.
Os bydd y cyfarth yn parhau ar ôl i chi siarad â'ch cymdogion, gallech gwyno i'r cyngor.
Gwaith ar y cartref
Yn ddelfrydol, dylai gwaith domestig swnllyd ar y cartref ddigwydd yn ystod y dydd fel na fydd yn achosi niwsans sŵn statudol i gymdogion.
Argymhellir bod gwaith adeiladu neu welliannau i'r cartref yn dechrau ar ôl 8am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac ar ôl 10am ar ddydd Sul ac ar wyliau banc, a dylai gwaith swnllyd orffen cyn 9pm.
Nid yw'r oriau gwaith hyn sy'n cael eu hargymell yn gallu cael eu gorfodi'n gyfreithiol.