Niwsans sŵn
Os ydych chi'n cael problemau gyda sŵn mawr, sy'n tarfu ac yn achosi trafferth yn aml, mae camau gallwch chi eu cymryd, gan gynnwys rhoi gwybod i Gyngor Dinas Casnewydd.
Ni all y cyngor ddelio â chwynion am blant swnllyd, cau drysau yn glep na sŵn traffig
Cyn cwyno i'r cyngor, dylech siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r sŵn - efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod nhw'n tarfu ac, yn aml, byddant eisiau helpu.
Cerddorion stryd
Sut i beidio â gwneud gormod o sŵn
Gallwch leihau eich lefelau sŵn eich hun gartref trwy ddilyn y canllawiau hyn:
- Peidiwch â gosod seinyddion ar y waliau
- Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu clywed cloch y drws dros y gerddoriaeth neu'r teledu
- Cadwch lefelau sŵn yn isel yn hwyr y nos
- Dywedwch wrth eich cymdogion os byddwch yn cael parti
- Peidiwch â gadael eich ci ar ei ben ei hun am gyfnodau hir
- Os bydd eich ci yn cyfarth, ewch ato a'i dawelu
- Peidiwch â defnyddio peiriant golchi neu sychu dillad yn hwyr y nos
- Os byddwch yn dod adref ar ôl noson allan, cadwch eich lefelau sŵn yn isel - caewch ddrysau car yn ofalus a siaradwch yn dawel
- Yn bennaf oll, byddwch yn rhesymol os bydd eich cymydog yn dod atoch oherwydd problem
Amddiffyn eich clyw
Mae dod i gysylltiad â cherddoriaeth uchel iawn am oriau ar y tro yn gallu niweidio'ch clyw a gall fod yn anodd sylwi ar hynny tan ei bod hi'n rhy hwyr, a'r niwed yn barhaol.
Fel canllaw, dylech allu siarad â rhywun sydd dau fetr i ffwrdd, heb weiddi.
Os na allwch glywed yn iawn neu os yw'ch clustiau yn canu ar ôl digwyddiad, mae'n debyg bod y lefelau sŵn yn rhy uchel.
Peidiwch â defnyddio clustffonau i wrando ar gerddoriaeth yn rhy aml a byddwch yn ofalus gyda lefel y sŵn - gwnewch yn siwr eich bod yn gallu clywed sŵn cefndir hefyd.
Ewch i Action on Hearing Loss
Ewch i British Tinnitus Association