Gosodir cwrbyn isel ar balmant y tu allan i eiddo i alluogi cerbydau i groesi’r palmant a pharcio ar yr eiddo.
Mae’r broses yn cynnwys gostwng cerrig y cwrbyn a chryfhau’r palmant a’i wneud yn ramp.
Cam 1 – cadarnhewch y canlynol cyn gwneud cais....
1. Ydych chi’n gallu talu am y drwydded a’r costau adeiladu?
Bydd Cyngor Casnewydd yn gwneud y gwaith a disgwylir i fanyleb costau’r man croesi fod rhwng £1,500 a £2,500.
Mae’r drwydded yn costio £100 ac mae’n rhaid talu amdani ar adeg gwneud y cais.
Unwaith y daw'r taliad ar gyfer y cais i law, anfonir cais at y Tîm Rhwydwaith Priffyrdd i'w brosesu.
Byddwch yn derbyn hysbysiad gan y tîm drwy e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith i'ch hysbysu a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.
2. Caniatâd Cynllunio
Cadarnhewch a oes angen caniatâd cynllunio arnoch.
3. Lle
Mae’n rhaid i chi gael digon o le ar gyfer cerbyd safonol heb iddo grogi dros y droedffordd, mae angen o leiaf 5.5m o hyd a 2.7m o led.
Dyma fesuriadau'r lle parcio sydd ei angen ar eich eiddo. Pan fydd ar y briffordd fabwysiedig, bydd angen cwrbyn pontio y naill ochr a'r llall i'r cyrbau isel, gan wneud cyfanswm lled adeiladu priffyrdd o 4.5 metr o leiaf.
- Mae’n rhaid i unrhyw gatiau agor i gyfeiriad yr eiddo
- Gellir caniatáu estyniadau o hyd at 6.3m
- Dim ond un man croesi i gerbydau a ganiateir fesul eiddo
4. Lleoliad
Mae’n rhaid i'r safle arfaethedig fod 15m oddi wrth gyffordd gyda ffordd A, B neu C neu 10m oddi wrth isffordd.
5. Gwelededd
A oes gwelededd da? Gall waliau, perthi neu rwystrau eraill olygu na allwn gymeradwyo’r man croesi.
6. Caeadau gwasanaethau
Bydd rhaid i chi gysylltu â’r cwmni dŵr, nwy neu drydan perthnasol i drefnu i gael gwared ag unrhyw gaeadau gwasanaethau gerllaw ac fel arfer bydd rhaid i chi dalu'r cwmni i wneud hyn.
7. Coed
Mae’n bosib y bydd rhaid symud unrhyw goed ar y droedffordd neu lain ymyl a gall hynny gostio tua £600.
Os caiff coeden ei symud, bydd rhaid i chi dalu am y gwaith o blannu dwy goeden newydd mewn man priodol.
8. Celfi stryd, e.e. arwyddion ffyrdd
Er bod modd symud arwyddion ffyrdd os bydd angen, gall y costau sy’n gysylltiedig â hynny fod cyn uched â £3,000.
9. Mannau parcio, safleoedd bws ac ati
Os oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar waith ar y safle, yna mae’n bosib eu diwygio, ond gall y broses gostio £3,000.
Cam 2 – gwneud cais a thalu
Os ydych yn fodlon eich bod yn deall ac yn gallu bodloni’r meini prawf uchod, cwblhewch y ffurflen hon i wneud cais am gwrbyn isel a thalu amdano.
Gwnewch gais a talwch am gwrbyn isel
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am groesfan/mynediad i gerbydau dros briffordd gyhoeddus.
Efallai y bydd angen mynediad i eiddo o ffordd ar wahân i'r hyn sy'n ymddangos yn y cyfeiriad post, e.e. llain gornel. Dylech nodi'n glir enw'r ffordd y mae angen cael mynediad ohoni.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau na chyfamodau, a byddwch wedi gwirio'r rhain cyn gwneud cais.
Dylech gysylltu â'ch cyflenwyr (nwy, dŵr, trydan, ffôn, cebl ac ati) i gael manylion unrhyw wasanaethau a/neu gyfarpar a allai gael eu heffeithio. Sicrhewch fod yr holl atebion wedi dod i law cyn i unrhyw waith ddechrau. Efallai y bydd angen tystiolaeth arnom o'r holl ymatebion cyn y gellir rhoi caniatâd i ddechrau ar unrhyw waith.Os ydych yn denant, rhaid i chi gael cytundeb perchennog yr eiddo, boed yn gymdeithas dai neu'n landlord preifat.
Dylid gwneud unrhyw waith ar eich tir eich hun i ddarparu ar gyfer mynediad a pharcio cyn gosod y groesfan sydd wedi'i gostwng. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cysylltu â’r adran gynllunio cyn cyflwyno eich cais. Sicrhewch fod y gwaith hwn wedi'i gwblhau cyn cyflwyno eich cais. Rhaid gwneud yr holl waith sy'n ofynnol ar dir y perchennog i fel bod y lefelau yn cyfateb â'r briffordd gyffiniol Ni fydd y cyngor yn ymgymryd ag unrhyw waith y tu hwnt i derfynau'r briffordd gyhoeddus.