Problemau Draenio
Rhoi gwybod am diffygion
Rhowch wybod am gaeadau carthffosiaeth neu gratiau gylïau sydd ar goll, wedi'u difrodi, wedi suddo, wedi codi neu sy'n symud drwy gysylltu
Draeniau/gylïau wedi'u blocio
Cyngor Dinas Casnewydd sy'n gyfrifol am ddraenio dŵr ar arwyneb priffordd (h.y. gylïau sy'n galluogi dwr i ddraenio o'r ffyrdd a'r llwybrau).
Os yw'r broblem yn ymwneud â draenio dwr brwnt ar dir preifat (h.y. nid draenio dŵr storm) cysylltwch â Dwr Cymru am gyngor:
Ffôn : 0800 085 3968
E-bost : [email protected]
Cyfrifoldeb y perchennog yw carthffos ar eiddo preifat, hyd at y cysylltiad â’r brif garthffos.
Bydd y cyngor yn delio â draeniau wedi'u blocio ac ymholiadau am ddraeniau dŵr wyneb neu gylïau ar ffordd neu droedffordd fabwysiedig.
Eitemau wedi'u colli
Os byddwch yn gollwng rhywbeth gwerthfawr (e.e. allweddi) i lawr draen, cysylltwch â’r cyngor.
Byddwn yn chwilio am eitemau a gollir fel rhan o’r gwaith rheolaidd a wnawn ond ni allwn roi blaenoriaeth benodol i hyn.
Codir ffi am y gwasanaeth hwn.