Ardaloedd terfyn cyflymder 20mya
Yng Nghasnewydd, cyflwynir ardaloedd terfyn cyflymder 20mya ar y cyd â mesurau arafu traffig ffisegol.
Byddwn ond yn ystyried cyflwyno ardaloedd terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd lle bydd hynny’n gwella diogelwch a helpu i leihau anafiadau a damweiniau yn deillio o gyflymder traffig uchel.
Darllen mwy a gwneud cais am fesurau arafu traffig
Camerâu Diogelwch
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn aelod o Bartneriaeth Gan Bwyll / Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffyrdd Cymru, sy’n ceisio lleihau nifer y damweiniau ar ffyrdd Cymru.
Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am orfodi goleuadau coch a chamerâu cyflymder ac yn annog pobl i yrru’n ddiogel ac yn gyfreithiol drwy gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder ac ymgyrchoedd.
Rydym wedi gosod arwyddion a ysgogir gan gerbydau mewn nifer o safleoedd camerâu diogelwch i atgoffa gyrwyr am eu cyflymdra a’u helpu i gydymffurfio â’r terfyn cyflymder.
Ymgyrch Snap
Os oes gennych chi fideo neu ffilm camera dashfwrdd o rywun yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn, gyrru drwy olau coch neu yrru'n beryglus, rhowch wybod amdano ar Ymgyrch Snap a helpu i wneud ein ffyrdd yn ddiogelach i bawb.
Swyddogion Croesfannau Ysgol
Y rhieni bob amser sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu plant yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn ddiogel.
Mae’n bosib y caiff swyddogion croesfannau ysgol eu rhoi ar waith i helpu plant ysgolion cynradd pan fo traffig yn ei gwneud yn anodd croesi’r ffordd.
Cyn gwneud hynny byddwn yn ystyried p'un ai a yw meini prawf cenedlaethol diogelwch y ffyrdd yn cael eu bodloni ai peidio, gan roi ystyriaeth i symudiadau cerddwyr a cherbydau.
Croesfannau i Gerddwyr
Pan fydd cais yn dod i law am groesfan i gerddwyr rydym yn ystyried:
- nifer y bylchau addas yn llif y traffig
- nifer y bobl a all fod yn awyddus i groesi'r ffordd yn y lleoliad dan sylw
- p’un ai a yw’n bosibl adeiladu croesfan
Gan fod mwy o geisiadau am groesfannau’n dod i law na’r cyllid sydd ar gael i’w hadeiladu, rhoddir blaenoriaeth i leoliadau lle mae cerddwyr wedi cael eu hanafu.
Cysylltwch â ni isod i roi gwybod am unrhyw ddiffygion mewn cysylltiad â chroesfannau presennol.
Cysylltu
Anfonwch e-bost i [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.