Canllawiau gwastraff ac ailgylchu COVID-19
COVID-19: mae ein casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn gweithredu gyda llai o staff, nodwch y diweddariadau gwasanaeth hyn:
- Dylid gosod biniau a bocsys ailgylchu i'w casglu erbyn 6am ar eich diwrnod casglu
- Trefnwch eich ailgylchu i'n helpu i gasglu a gwagio eich ailgylchu'n haws
- Casgliadau a gollwyd: os na chasglwyd gwastraff stryd gyfan, byddwn yn casglu ar y diwrnod canlynol. Os mai dim ond casgliad eich cartref chi sydd wedi'i golli, rhowch wybod am gasgliad a gollwyd ar-lein neu drwy'r app My Newport yn hytrach na ffonio a byddwn yn casglu ar eich diwrnod casglu nesaf.
- Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) ar agor ar gyfer ymweliadau hanfodol a drefnwyd ymlaen llaw yn unig.
- Mae'r safle tirlenwi yn parhau i fod ar agor i fusnes masnachol
- Mae casgliadau gwastraff masnach yn parhau, dywedwch wrthym os ydych wedi cau eich busnes ac am atal casgliadau
Rheoli gwastraff llygrol
Os oes gennych symptomau’r Coronafeirws, ystyrir bod eich gwastraff wedi'i halogi ac mae angen ei drin fel a ganlyn:
- Rhaid rhoi pob eitem halogedig, gan gynnwys hancesi papur, clytiau glanhau, weips a masgiau mewn bag plastig y mae'n rhaid ei glymu i atal deunydd rhag dianc
- Rhowch y bag y tu mewn i fag bin arall a chlymu top y bag
- Cadwch y gwastraff yn y bag am gyfnod o 72 awr mewn man na all pobl eraill neu anifeiliaid anwes ei ddefnyddio
- Rhowch y bag yn eich bin gwastraff olwynion i'w gasglu'n ddiogel gan ein criwiau. Rhaid i’r gwastraff yn y bag fod yn eich bin olwynion a rhaid rhoi'r bin allan yn eich man casglu arferol
- Os ydych yn cael casgliad â chymorth, rhowch y gwastraff mewn bagiau fel uchod, a'i roi allan yn eich bin olwynion fel arfer
Diolch i chi am eich amynedd a’ch cefnogaeth.