Cynllun a rheolau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)
Cyn i chi drefnu ymweliad
Gwyliwch ein canllaw fideo i drefnu eich ymweliad
Rhaid i chi gael slot wedi’i archebu - dim archeb, dim mynediad
- Peidiwch ag ymweld os oes unrhyw symptomau COVID-19
- Cofiwch ddidoli eich gwastraff ymlaen llaw gan y cewch eich cyfyngu i 15 munud ar y safle
- Ni ddylai preswylwyr sy'n hunan-warchod neu'n agored i niwed ymweld
Lawrlwytho Cwestiynau cyffredin (pdf)
Archebu ymweliad
Archebu ymlaen llaw yn unig, rhaid i chi archebu ymlaen llaw
Os na allwch archebu ar-lein gallwch ffonio (01633) 656656, nodwch y cyfeirnod archebu a roddir i chi a dod ag ef gyda chi pan fyddwch yn ymweld.
Dim ond os na allwch archebu ar-lein y dylech ffonio.
Mae slotiau newydd yn cael eu rhyddhau bob dydd, felly rhowch gynnig arall arni os nad oes lle ar gael ar eich ymgais gyntaf.
Cyrhaeddwch o fewn eich slot amser a drefnwyd a dewch â'ch e-bost cadarnhad (ar eich ffôn neu wedi'i argraffu) neu eich rhif cyfeirnod fel prawf gyda chi. Cyrhaeddwch o fewn eich slot, peidiwch â cheisio cyrraedd yn gynnar.
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener: 7.30am - 6pm
Dydd Sadwrn: 8am - 6pm
Cynllun a rheolau'r safle
Ceisiwch ymgyfarwyddo â chynllun a rheolau newydd y safle cyn i chi ymweld.
Lawrlwythwch ddiagram o gynllun y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (pdf)
- Dim ond y gyrrwr ddylai fod yn y cerbyd, rhaid i chi aros yn eich car nes eich bod yn cael cyfarwyddiadau
- Dim ond ceir/cerbydau teithwyr a threlars bach (dim mwy na 1.6m wrth 1.2m) a ganiateir ar y safle
- Ni chaniateir mynediad i gerbydau masnachol na faniau o unrhyw faint sydd wedi'u cynllunio neu sy’n cael eu defnyddio i gludo nwyddau.
- Ceir mynediad i’r CAGC yn ôl disgresiwn staff y safle.
- Mynediad o'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol tua'r gorllewin yn unig
- Cyrhaeddwch o fewn eich slot amser wedi'i archebu a peidiwch â chiwio ar y briffordd gyhoeddus
- Ni all staff y safle helpu i ddadlwytho na chario eitemau, rhaid i chi allu dadlwytho eich cerbyd yn ddiogel heb gymorth Ni ellir derbyn
- UNRHYW WASTRAFF HEB EU didoli ar y safle. Rhaid i bob gwastraff gael ei ddidoli ymlaen llaw; ni chaniateir bagiau du gyda gwastraff ailgylchadwy. Efallai y gofynnir i breswylwyr ddangos eu gwastraff i sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy yn bresennol, a’i ddidoli i sicrhau bod yr holl eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu gwahanu’n gywir. Ni ddylid dod â deunyddiau a gesglir trwy gasgliadau cartref i’r safle, ond gellir dod â gwastraff gwyrdd gormodol a chardbord i mewn ar yr amod eu bod wedi’u didoli ymlaen llaw.
- Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl ymweld â'r safle, nid oes hylif diheintio llaw ar y safle
Diolch am eich dealltwriaeth a’ch amynedd