Gwybodaeth i ymwelwyr
Dylai ymwelwyr archebu lle cyn ymweld â safle'r canolfan ailgylchu gwastraff cartref (CAGC). Dim archeb, dim mynediad.
Os ydych wedi bwcio i ymweld â’r CAGC, gallwch ymweld â siop y ganolfan ailgylchu ymlaen llaw i roi unrhyw eitemau y maent yn eu derbyn.
Amseroedd agor
Dydd Llun i ddydd Gwener: 7.30am - 6pm.
Dydd Sadwrn i ddydd Sul: 8am - 6pm.
Mynediad olaf 5:40pm.
Rheolau'r safle
Dylai ymwelwyr i’r safle didoli ei gwastraff cyn dod. Dim ond slot 15 munud fydd gennych.
Ni ddylai bagiau du gynnwys unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu.
Dim ond ceir/cerbydau teithwyr a threlars bach (uchafswm o 1.6m wrth 1.2m) a ganiateir ar y safle. Ni fydd cerbydau masnachol na faniau o unrhyw faint a ddyluniwyd neu a ddefnyddir ar gyfer cludo nwyddau yn cael mynediad.
Mae mynediad i'r CAGC yn ôl disgresiwn staff y safle. Mae mynediad o'r ffordd ddosbarthu ddeheuol (SDR) tua'r gorllewin yn unig.
Cyrhaeddwch o fewn eich slot amser a pheidiwch â chiwio ar y briffordd gyhoeddus.
Nid yw staff y safle yn gallu helpu i ddadlwytho na chario eitemau, rhaid i chi allu dadlwytho eich cerbyd yn ddiogel heb gymorth.
Efallai y gofynnir i drigolion ddangos eu gwastraff i sicrhau nad oes deunyddiau ailgylchadwy yn bresennol, ac i'w ddidoli i sicrhau bod yr holl eitemau y gellir eu hailgylchu wedi'u gwahanu yn gywir.
Canslo ymweliad â'r CAGC
Os gwnaethoch apwyntiad gan ddefnyddio'ch cyfrif Fy Casnewydd, gallwch ganslo gan ddefnyddio'r ddolen yn yr e-bost a gawsoch.
Os archeboch chi fel gwestai, cysylltwch â [email protected].