Hwb casglu sbwriel
Gwnewch wahaniaeth a helpu i gadw eich cymuned yn lân ac yn ddiogel gyda hybiau casglu sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus.
Ymunwch â grŵp cymunedol i lanhau ardaloedd yng Nghasnewydd neu, os credwch fod angen help ar eich ardal leol, dechreuwch eich grŵp eich hun.
Gallwch fenthyg offer gan gynnwys casglwyr sbwriel, cylchynau, siacedi llachar a bagiau bin gan eich Hyb Cadw Cymru'n Daclus lleol.
Mae'r cyfarpar yn cael ei fenthyg am ddim ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Os hoffech ddechrau’ch grŵp eich hun, cysylltwch â Cadwch Gymru'n Daclus a all gynnig cyngor i chi ar wneud hyn.