Newidiadau i gasgliadau gwastraff
Mae casgliadau gwastraff cartref a gardd wedi symud i gasgliadau bob tair wythnos ledled Casnewydd.
Rydym yn gwario mwy na 2.2 miliwn i waredu gwastraff na ellir ei ailgylchu bob blwyddyn. Mae data newydd yn dangos y gallai bron i 40 y cant ohono fod wedi cael ei ailgylchu gartref.
Mae llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i gynghorau Cymru ailgylchu 70 y cant o wastraff cartref erbyn 2025. Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghasnewydd wedi gwella’n sylweddol dros y 15 mlynedd diwethaf, ond byddai’r cyfraddau presennol yn ein gweld yn wynebu dirwyon posibl.
Yn seiliedig ar ein perfformiad ailgylchu presennol, gallem gael dirwy o fwy na £500,000 am bob blwyddyn y byddwn yn methu â chyrraedd y targed hwn.
Os ydych chi’n didoli’ch gwastraff ac yn ailgylchu popeth y gallwch chi gan ddefnyddio ein casgliadau ailgylchu ar wahân bob wythnos, bydd gennych chi lai o sbwriel dros ben i’w roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Cadw Casnewydd yn daclus
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i rhoi ein gwastraff yn y biniau priodol, yn barod i'w gasglu a'i ailgylchu.
O dan Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990), gallwn roi dirwyon mewn rhai amgylchiadau lle mae preswylwyr yn torri ein canllawiau casglu gwastraff cartref ac ailgylchu.