Pecynnu polythen
Gellir ailgylchu llawer o fathau o ddeunydd lapio blastig polythen tenau yn y pwyntiau casglu bagiau plastig yr archfarchnadoedd mawr yng Nghasnewydd.
Gellir ailgylchu cynnyrch polythen megis bagiau bara, bag dal grawnfwyd brecwast, paced papur tŷ bach a phapur cegin, cynnyrch neges wedi lapio gan blastig (ffres ac wedi rhewi), gorchudd crebachu aml-becyn, bagiau haen bolythen o nwyddau’r cartref a gorchudd plastig cylchgronau a phapurau newydd.
Bydd siopau sy’n derbyn bagiau plastig i’w hailgylchu hefyd yn derbyn gorchudd haen blastig glân.
Bydd label newydd ar becynnau i annog pobl i ailgylchu’r gorchudd plastig mewn mannau ailgylchu bagiau plastig yn y siopau uchod.
Cynllun Labeli ar Bacedau Ailgylchu (OPRL)
Caiff y symbol OPRL ei ddefnyddio gan dros 100 cwmni ar dros 60,000 cynnyrch i helpu siopwyr i weld pa blastigau tenau y gellir mynd â nhw yn ôl i’r siop.
Darllen rhagor am y cynllun On Pack Recycling Label (OPRL).