Cymorth codi bin
Os nad ydych chi’n gallu rhoi eich ailgylchu a chynwysyddion gwastraff anailgylchadwy allan dros dro neu’n barhaol oherwydd problemau symudedd, a heb rywun arall i'ch helpu, gallwch gysylltu â ni i wneud cais am 'gymorth casglu gwastraff’ a byddwn ni’n asesu eich sefyllfa.
Ystyr ‘gwasanaeth cymorth casglu’ yw pan fydd ein criwiau'n casglu eich gwastraff ailgylchu a gwastraff arall o bwynt casglu y cytunwyd arno sy'n gyfleus ac yn hawdd i chi ei gyrraedd.
Wrth wneud cais, dywedwch wrthym:
- pam na allwch roi eich ailgylchu a chynwysyddion gwastraff anailgylchadwy allan i ni eu casglu,
- manylion unrhyw un arall sy'n byw yn eich cartref, a
- pam na all unrhyw un arall sy'n byw yn eich cartref symud y cynwysyddion.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais am 'gymorth casglu gwastraff', byddwn yn anfon llythyr atoch o fewn ychydig wythnosau yn cadarnhau a ydych yn gymwys.
Os ydych chi’n gymwys, cadwch eich cynwysyddion yn agos i flaen eich cartref, neu lle gall ein criwiau eu gweld yn hawdd fel y gallwn gasglu eu cynnwys a'u dychwelyd.