Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori’n rheolaidd â phobl leol ar ystod eang o bolisïau, cynlluniau a chynigion sy’n effeithio ar y gymuned leol.
Mae’r ymgynghoriadau isod bellach wedi cau.
Dyddiad cau: 5 Medi 2024
Mae Strategaeth Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd 2024-2027 yn nodi sut y bydd y cyngor yn cynyddu hygyrchedd ein hysgolion i ddisgyblion ag anableddau.
Bydd y strategaeth yn anelu at wella:
- sut mae disgyblion anabl yn cymryd rhan yng nghwricwlwm
- yr ysgolamgylchedd yr ysgolion
- sut mae disgyblion, gofalwyr a theuluoedd yn cyrchu gwybodaeth
- cyfathrebu a thryloywder
Canol Dinas Casnewydd
Dyddiad cau: 5 Medi 2024
Disgwylir i Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) Canol Dinas Casnewydd a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2021 ddod i ben ym mis Rhagfyr 2024. Rydym bellach yn ymgynghori ar adnewyddu'r GDMC hwn ac yn gofyn i drigolion am eu barn.
Maesglas
Dyddiad cau: 5 Medi 2024
Ym mis Hydref 2023, gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd adnewyddu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar gyfer rhan o Faesglas - rhan o ward etholiadol Gaer - gyda chefnogaeth Cartrefi Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent.
Rydym nawr yn edrych i ymestyn yr ardal i gwmpasu ardal gyfan Maesglas ac rydym yn gofyn i drigolion am eu barn am y newid hwn.
Pillgwenlly
Dyddiad cau: 4 Medi 2024
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) Pilgwenlli a gyflwynwyd ym mis Awst 2021 yn dod i ben ar 20 Awst 2024. Rydym bellach yn ymgynghori ar adnewyddu'r GDMC hwn ac yn gofyn i drigolion am eu barn.
Dyddiad cau: 27 Gorffennaf 2024
Mae'r ddau barc wedi derbyn statws y Faner Werdd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r wobr hon yn gosod y meincnod ar gyfer rheoli mannau awyr agored hamdden ledled y wlad.
Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i wella ein safonau yn y ddau barc gyda'r bwriad o gadw statws y Faner Werdd yn y blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cau: 5 Gorffennaf 2024
Mae'r cynllun drafft yn nodi camau y gall y cyngor a chymunedau eu cymryd i helpu i wella ansawdd aer yn ardaloedd mwyaf llygredig y ddinas, neu Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAAau).
Dyddiad cau: 5 Gorffennaf 2024
Mae'r cynllun drafft yn nodi sut y bydd y cyngor yn gweithio i liniaru'r peryglon i drigolion a chymunedau o ganlyniad i lifogydd lleol.
Mae'n nodi
- sut y byddwn yn rheoli llifogydd yn y ddinas
- sut rydym yn asesu perygl llifogydd
- pha fesurau ataliol y gellir eu cymryd i reoli'r risg hon