Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, yr aelod cabinet dros addysg a’r blynyddoedd cynnar: "Heddiw yw diwrnod hawliau gofalwyr ac mae'n bwysig cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn teuluoedd, ac mewn cymdeithas, yn ogystal â chydnabod yr effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau eu hunain.
"Mae gwaith rhagorol eisoes yn cael ei wneud. Mewn partneriaeth â Barnardo’s, mae gan Gasnewydd wasanaeth gofalwyr ifanc ymroddedig sy'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth un-i-un yn ogystal â gweithgareddau gyda'r cyfle iddynt gael amser i fwynhau eu hunain."
Dywedodd Mark Carter, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's: "Mae llofnodi'r Cyfamod Gofalwyr Ifanc yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i'r gofalwyr ifanc anhygoel rydyn ni'n eu cefnogi ledled Casnewydd yma yn Barnardo's. Rydym yn falch iawn o chwarae rhan mewn cynllun sy'n rhoi'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
"Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi mwy na 100 o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu rhwng wyth a 25 oed ledled Casnewydd, sy'n gofalu am aelod sâl neu anabl o'r teulu. Rydym yn gwybod bod nifer go iawn y gofalwyr ifanc yn llawer uwch.
"Bob dydd mae eu gwytnwch a'u dyfeisgarwch yn creu argraff arnom ac rydym yn teimlo'n hynod falch o'u cefnogi."
I blant a phobl ifanc, gall yr effaith ar eu hiechyd a'u lles fod yn sylweddol. Dywed gofalwyr ifanc eu bod yn aml dan straen ac wedi blino, yn poeni am gydbwyso eu rôl ofalu gyda'r ysgol neu'r coleg, a’u bod yn teimlo'n unig. Dydyn nhw ddim yn gallu bod yn blentyn.
Maent yn cyflawni eu rôl yn wirfoddol a gan eu bod nhw’n caru’r person, ac maen nhw’n gweld bod rhai agweddau cadarnhaol. Ond gall gyfyngu ar eu cyfleoedd a gall yr effaith bara drwy gydol eu bywydau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i gefnogi gofalwyr ifanc a gwella’r gefnogaeth honno drwy wneud popeth o fewn ei allu i gyflawni 10 canlyniad allweddol y siarter. Mae'r rhain yn cynnwys adnabod gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu mor gynnar â phosibl, a sicrhau eu bod nhw’n gallu cael gafael ar y gefnogaeth gywir a chael amser iddyn nhw eu hunain.
"Hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Steve Marshall sy'n bencampwr cyson dros ofalwyr ifanc y ddinas ac a anogodd y cyngor i ymuno â'r fenter hon."
Os ydych chi'n ofalwr ifanc, neu os ydych chi'n adnabod gofalwr ifanc sydd angen cymorth neu gyngor, ewch i https://www.barnardos.org.uk/get-support/services/newport-young-carers-service, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07729 445503