Mae'r rhaglen, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig cyngor am ddim a grantiau arian cyfatebol hyd at £30,000 i sefydliadau yn ardal Casnewydd sy'n ceisio lleihau eu hallyriadau carbon. Mae dros £201,000 wedi'i ddyfarnu yn y cam cyntaf hwn.
Nod y rhaglen yw helpu i ysgogi twf yn economi carbon isel Casnewydd a chefnogi taith y ddinas i sero net erbyn 2050 trwy fuddsoddi mewn busnesau lleol a grwpiau cymunedol, pobl a sgiliau.
Roedd wyth o'r grŵp cyntaf o ymgeiswyr llwyddiannus yn bwriadu gosod paneli solar ar eu prif safle. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys:
- Parc Fferm Cefn Mabli
- GD Environmental
- Planhigfeydd Greenmoor
- J Plant Ltd
- Michael Jeffrey Ltd
- Clwb Chwaraeon Pill Harriers
- Eglwys St Cadoc
- Ted Hopkins Ltd
Yn ogystal â'r paneli solar, mae St Cadog’s hefyd yn ceisio gosod gwres dan y llawr a goleuadau LED yn yr adeilad, a phwmp gwres ffynhonnell aer ar y safle, fel rhan o waith ôl-osod yr eglwys.
Gwnaeth Cosy Cinema gais llwyddiannus am arian tuag at osod silindrau dŵr, pympiau gwres ffynhonnell aer a goleuadau LED yn eu safle yng nghanol dinas Casnewydd a agorwyd yn ddiweddar.
Dyfarnwyd arian i ddau sefydliad arall, Ffotograffiaeth Huw Jones a Maindee Unlimited, i adnewyddu goleuadau presennol yn eu hadeiladau gyda dewisiadau LED amgen.
Gyda'i gilydd, bydd y camau a gefnogir drwy'r dyfarniadau ariannol yn arbed yr hyn sy’n gyfwerth â rhyw 75.8 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn, sy'n gyfwerth â phlannu tua 3,000 o goed.
Gan siarad am y dyfarniadau grant, dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: "Rwy'n falch iawn o'r ymateb a gawsom i lansio'r rhaglen.
"Mae'n wych gweld cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r ddinas yn ceisio lleihau eu hallyriadau carbon.
"Byddwn yn annog unrhyw sefydliad sy'n chwilio am gymorth i gysylltu â ni a gweld sut y gallwn ni helpu."
Mae tîm y rhaglen yn dal i fod yn awyddus i glywed gan sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael gafael ar gymorth neu gyllid grant, yn enwedig gan grwpiau cymunedol.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch i’n gwefan neu e-bostiwch y tîm yn [email protected].
Ariannwyd y rhaglen gan Gronfa Ffyniant Gyffredin flaenorol llywodraeth y DU.
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU oedd agenda Ffyniant Bro 2019-2024 llywodraeth y DU a darparodd £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Nod y gronfa oedd gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.