Mae Cyrus yn gogydd Indiaidd sy'n berchen ar Café Spice Namasté, sydd wedi ennill gwobrau Michelin am 23 mlynedd yn olynol. Yn 2012, cafodd Cyrus hefyd yr anrhydedd o goginio Cinio Jiwbilî Diemwnt i’r ddiweddar Frenhines, Elizabeth II.
Mae hefyd i’w weld yn aml yn coginio ar raglen y BBC Saturday Kitchen yn ogystal â sioe ITV James Martin's Saturday Morning. Gyda'i ffrind a'i gyd-gogydd, Tony Singh, roedd Cyrus yn gyflwynydd ar sioe BBC The Incredible Spicemen a chyfres deledu ar y Discovery Channel, The Galleons of Spice.
Bydd Cyrus yn cynnal arddangosfa goginio ym Marchnad Casnewydd am 1pm a bydd hefyd yn feirniadu yng nghystadleuaeth Teenchef am hanner dydd.