Mae’n cynnwys:
- Gŵyl y gaeaf gyda llawr sglefrio, stondinau bwyd ac Olwyn Fawr
- Y digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig bythol boblogaidd i droi’r goleuadau ymlaen, cerddoriaeth, gwesteion arbennig, teithiau ffair ac arddangosfa tân gwyllt gwych.
- Digwyddiadau gweithdy Siôn Corn, cyfleoedd lluniau addurn a stondinau bwyd Nadoligaidd yn Friars Walk
- Stondinau marchnad Nadolig yng nghanol y ddinas
- Sioeau Nadoligaidd gan gynnwys y panto Dick Whittington yng Nglan yr Afon a chyfres o ddigwyddiadau ym Marchnad Casnewydd gan gynnwys Côr Meibion Dinas Casnewydd
- Ac yn eisin ar y gacen, bydd parcio am ddim bob dydd Sadwrn ym meysydd parcio canol y ddinas sy'n eiddo i'r cyngor rhwng 16 Tachwedd a 31 Rhagfyr.
Mae partneriaid gan gynnwys y cyngor, AGB (Ardal Gwella Busnes) Casnewydd Nawr, Friars Walk, Casnewydd Fyw a Marchnad Casnewydd wrth fel corachod yn paratoi i'w gwneud yn dymor disglair!
Mae gan y ddinas fanwerthwyr annibynnol anhygoel hefyd lle gallwch brynu anrhegion unigryw i'r bobl arbennig yn eich bywyd, a’u dathlu oll ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ar 7 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Emma Corten, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Chyfathrebu: "Rydym am sicrhau y gall pawb brofi hud a lledrith Nadolig Casnewydd gan y bydd rhai o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau cyffrous hyn am ddim i bobl eu mwynhau.
"Rydyn ni wedi bod yn ysgrifennu ein rhestrau dymuniadau gyda phartneriaid i sicrhau bod y Nadolig, a'r Flwyddyn Newydd, yn y ddinas yn un i’w gofio. Rydym am gwblhau cynlluniau ar gyfer Nadolig Casnewydd cyn gynted â phosibl felly cadwch lygad ar ein sianeli am fwy o fanylion a mwy o gyhoeddiadau am yr hyn sydd ar y gweill dros yr wythnosau nesaf."
Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ewch i wefan Be Sy’ Mlaen Dinas Casnewydd, tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr wythnosol a darllenwch rifyn mis Tachwedd o Newyddion Casnewydd am fwy o wybodaeth. Gall unrhyw un sy'n cynllunio digwyddiad Nadolig hefyd ei hysbysebu am ddim ar Be Sy’ Mlaen Dinas Casnewydd.