Caniatâd i fferm solar

Mae cynnig am fferm solar ffechan ar safle tir llwyd fydd yn helpu i leihau ôl troed carbon y cyngor wedi cael caniatâd cynllunio.
One of the council’s current electric refuse vehicles/Un o gerbydau gwastraff trydan presennol y cyngor.

Bydd y datblygiad solar ar y ddaear yn darparu 1MWp (megawat brig) ac mae'r cyngor yn bwriadu defnyddio'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir i bweru ei gerbydau gwastraff. 

Yn ogystal â lleihau ei ddibyniaeth ar ddisel, byddai hyn yn gwella ansawdd aer yn y ddinas. 

Mae'r safle sy'n eiddo i'r cyngor wrth ymyl Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, lle mae is-orsaf drydan eisoes wedi'i lleoli sy'n golygu gostyngiad ar gostau cysylltu â’r grid. Mae'r cerbydau gwastraff wedi'u lleoli ar y safle felly gellid eu gwefru'n uniongyrchol.

Nid yw'n agos at ardal breswyl ac mae y tu allan i ardaloedd tirwedd arbennig a diddordeb hanesyddol eithriadol Gwastadeddau Gwent. Gan tir tirlenwi wedi ei adennill ydyw, ni fyddai'n addas ar gyfer defnyddiau eraill fel amaethyddiaeth.

Dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros newid hinsawdd a bioamrywiaeth:  "Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon a bydd y fferm solar yn gwneud cyfraniad pwysig i'n huchelgais i fod yn gyngor sero net. 

"Bydd cynhyrchu ein hynni adnewyddadwy ein hunain i'w ddefnyddio yn holl gerbydau gwastraff yr awdurdod nid yn unig yn lleihau costau tanwydd ond hefyd yn ein helpu ymhellach yn ein hymgyrch i wella ansawdd aer yng Nghasnewydd."

Ar hyn o bryd mae gan y cyngor saith cerbyd gwastraff trydan a bydd yn parhau i ddisodli ei lorïau disel gyda fersiynau trydan dros y blynyddoedd nesaf.