Mae'r ymgyrch yn annog pobl i gael prawf HIV drwy fanteisio ar becyn prawf cartref cyfrinachol am ddim, yr hyn mae’n ei alw "y parsel pwysicaf i gyrraedd eich cartref".
Gyda thriniaeth, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw cyhyd a chyn iached ag unrhyw un arall. Mae triniaeth hefyd yn eich atal rhag pasio'r feirws ymlaen i eraill. Ond allwch chi ddim cael eich trin os na fyddwch chi’n profi.
Cael prawf yw'r unig ffordd o wybod os oes gennych chi HIV - ac, yng Nghymru, dyw hi erioed wedi bod yn haws.
Ers iddo gael ei gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020, mae'r gwasanaeth profi drwy’r post, sydd ar waith ledled Cymru, wedi cynyddu profi drwy ei gwneud hi’n haws: mae'r pecyn prawf cyfrinachol bellach am ddim, a gellir ei ddanfon i'ch drws.
Archebwch y pecyn ar-lein, dilynwch y cyfarwyddiadau, a'i bostio yn ôl i'w brofi.
Mae heddiw hefyd yn nodi blwyddyn ers i Gasnewydd ymuno â'r rhwydwaith Fast Track Cities byd-eang.
Mae'r rhwydwaith yn fenter ryngwladol sy'n gweithio i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030, heb unrhyw farwolaethau y gellir eu hatal o HIV/AIDS, dim stigma a dim gwahaniaethu ac ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw gyda HIV.
Mae Fast Track Casnewydd yn un o bedair menter llwybr carlam lleol a sefydlwyd yng Nghymru, ac mae'n gweithio ar lefel leol i:
- Gynyddu ymwybyddiaeth o brofi a’r niferoedd sy'n cael eu profi
- Lleihau'r stigma ynghylch HIV
- Cysylltu â chymunedau sydd, yn draddodiadol, heb eu gwasanaethu’n ddigonol o ran mynediad at wasanaethau HIV.
Am fwy o wybodaeth am y fenter Fast Track yng Nghymru, ewch i wefan Fast Track Cymru.