Mae'r Cynghorydd Deb Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar, wedi llongyfarch y staff am gyflawni'r nod ansawdd arian ar gyfer gwaith ieuenctid.
Roedd tîm Casnewydd eisoes wedi ennill y wobr efydd ac er mwyn ennill arian bu'n rhaid arddangos eu bod yn hyrwyddo arfer cynhwysol, yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn diwallu anghenion pobl ifanc.
Mae'r nod ansawdd hefyd yn cydnabod bod gwasanaethau'n cael eu darparu gan staff cymwys, bod gweithgareddau'n cael effaith ar bobl ifanc a bod staff yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Davies: "Mae'n amlwg bod y cynllun nod ansawdd yn gosod safonau uchel ar gyfer cyflawni gwaith ieuenctid, ac rwy'n falch iawn bod ein timau wedi dangos eu bod yn bodloni'r safonau hynny. Da iawn bawb.
"Mae ein gwasanaeth ieuenctid a chwarae wedi datblygu'n sylweddol yn ddiweddar ac yn cynnig clybiau yn ogystal â sesiynau gwyliau i blant a phobl ifanc ledled y ddinas.
"Mae croeso bob amser i gyfranogwyr newydd, a byddant yn dod o hyd i le cyfeillgar, hwyl a diogel gyda llawer o weithgareddau a chyfleoedd - mae rhywbeth at ddant pawb."
Gwyliwch fideo ein clwb ieuenctid yma neu dewch o hyd i ragor o fanylion am ble mae clybiau'n cael eu cynnal yn https://www.eventbrite.co.uk/o/newport-youth-play-and-community-engagement-teams-34236546899
Mae cynllun nod ansawdd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau ieuenctid.