Dechrau gwych i'r Nadolig yng Nghasnewydd gyda codiad yn niferoedd ymwelwyr Nadoligaidd

Mae Casnewydd yn bendant yn mynd i ysbryd yr ŵyl ac mae pobl yn heidio i ganol y ddinas yn eu miloedd.
Newport city centre at night with crowds of people and fairground rides in the background / Canol dinas Casnewydd gyda'r nos gyda thorfeydd o bobl a reidiau ffair yn y cefndir

Daeth 2,000 yn fwy o bobl I’r ddigwyddiad Ar Drywydd y Nadolig dydd Sadwrn, o'i gymharu â digwyddiad y llynedd, a oedd eisoes yn boblogaidd iawn. Mwynhaodd ymwelwyr gerddoriaeth fyw, reidiau ffair, bwyd Nadoligaidd, enwogion a thân gwyllt.

Gwelwyd yr wythnos diwethaf nifer anhygoel o ymwelwyr, gyda ffigurau wedi cynyddu 20 y cant o'i gymharu â'r wythnos flaenorol a 12 y cant o'i gymharu â'r un wythnos y llynedd.

Cofnododd ein partneriaid yn Friars Walk ddwywaith nifer yr ymwelwyr I’w gymharu a ddydd Sadwrn arferol.

Ac mae cymaint mwy yn dod i ganol y ddinas dros yr wythnosau nesaf wrth i'n holl weithgareddau Y Gwyliau yng Nghasnewydd gynyddu.

Yfory bydd Gŵyl y Gaeaf cyntaf erioed Casnewydd yn agor yng nghanol y ddinas. Gan frolio llawr sglefrio iâ go iawn, gallwch hefyd fwynhau'r reidiau, y stondinau, y bwyd Nadoligaidd, y bar a'r tostio malws melys.

Mae parcio am ddim ym meysydd parcio canol y ddinas sy'n eiddo i'r cyngor ar ddydd Sadwrn hefyd wedi dechrau ac yn rhedeg tan y dydd Sadwrn olaf ym mis Rhagfyr.

Mae'r Panto yn Theatr Glan yr Afon yn dechrau'r wythnos nesaf gyda Dick Whittington a'i gath ymddiriedol yn adrodd hanes eu taith epig o Gasnewydd i chwilio am enwogrwydd, ffortiwn, cyfeillgarwch ac antur.

Yn ystod mis Rhagfyr mae yna hefyd marchnadoedd Nadolig, ymweliadau gan Siôn Corn, canu Nadolig, perfformiadau côr, rhediadau Nadoligaidd a llawer mwy, yng nghanol y ddinas ac ar draws Casnewydd.

Os ydych chi'n chwilio am anrheg i'r rhywun arbennig hwnnw, peidiwch ag anghofio bod mwy na 60 y cant o fusnesau canol y ddinas yn annibynnol. Rydym yn falch o'r hyn sydd ar gael ac rydym yn siŵr y gallwch ddod o hyd i'r anrheg berffaith honno yn agos at eich cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Roedd yr awyrgylch yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf yn anhygoel ac fe wnes i fwynhau bod yn rhan o'r dathliadau yn fawr iawn. Ond mae hefyd yn wych gweld bod pobl yn dod i mewn i Gasnewydd drwy gydol yr wythnos ac mewn niferoedd cynyddol. Mae Y Gwyliau yng Nghasnewydd yn golygu y bydd rhywbeth i bawb dros yr wythnosau nesaf, ond ni fydd yn stopio yno. Rydym eisoes yn gwneud cynlluniau ar gyfer 2025 i sicrhau bod Casnewydd yn ffynnu drwy gydol y flwyddyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Y Gwyliau yng Nghasnewydd i'w gynnig ewch i www.casnewydd.gov.uk/nadolig 

I gael manylion am ddigwyddiadau ledled Casnewydd nawr ac ar hyd y flwyddyn, ewch i www.whatsoncityofnewport.co.uk