Mae'r newidiadau i gasgliadau gwastraff wedi cael eu croesawu’n frwd gan breswylwyr. Rydym wedi gweld cynnydd yn swm y deunydd ailgylchu rydym yn ei gasglu ers i'r newidiadau gael eu cyflwyno, a gostyngiad cyfatebol yn swm y gwastraff cyffredinol sy’n cael ei gasglu.
Ar gyfartaledd, mae ein cyfradd ailgylchu fisol 5% yn uwch na'r llynedd, ac mae ffigurau dros dro ar gyfer chwarter cyntaf eleni yn dangos bod ein cyfradd ailgylchu ar 71 y cant.
Mae deunydd ailgylchu, sy'n cynnwys gwastraff bwyd, yn cael ei gasglu'n wythnosol. Ni ddylai biniau gwastraff cyffredinol cynnwys unrhyw beth sy'n denu plâu.
Mae problemau gyda drewdod, pryfed, plâu a fermin yn cael eu hachosi'n bennaf gan wastraff bwyd yn dadelfennu. Mae gwastraff bwyd yn gyfran fawr o'r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu gartref. Trwy ei wahanu o wastraff na ellir ei ailgylchu a'i roi mewn cadi gwastraff bwyd i'w gasglu'n wythnosol, nid oes llawer o amser i unrhyw broblemau ddatblygu.
Rydym yn darparu bagiau gwastraff bwyd am ddim, a gellir cloi cadis gwastraff bwyd hefyd. Mae hyn yn gwneud storio gwastraff bwyd rhwng casgliadau yn fwy hylan na'i roi yn y bin gwastraff na ellir ei ailgylchu i'w gasglu bob tair wythnos.
Os oes pentwr gwastraff wedi'i adael i dyfu ar eiddo preifat, gellir rhoi gwybod i'r Cyngor am hyn ar gyfer ymchwiliad a gweithredu pellach.
Mae'n bwysig bod preswylwyr yn defnyddio'r holl finiau a'r cadi ailgylchu a ddarperir iddynt, a glanhau unrhyw ganiau, tuniau neu eitemau eraill a allai fod wedi dod i gysylltiad â bwyd. Bydd gwastraff a adawyd mewn pentyrrau y tu allan i finiau yn amlwg yn denu plâu.
Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael cymorth i'w helpu i reoli eu gwastraff a'u deunydd ailgylchu gysylltu â ni trwy ein gwefan. Efallai y bydd rhai aelwydydd sydd â phump neu fwy o bobl yn byw ynddynt yn gymwys i gael biniau olwynion mwy ar gyfer eu gwastraff cyffredinol.
Hoffem eich atgoffa y gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon neu sbwriel sydd ar dir cyhoeddus i ni hefyd trwy ein gwefan.
Mae gennym dîm ymroddedig o swyddogion sy'n delio â thipio anghyfreithlon a throseddau eraill sy'n gysylltiedig â gwastraff.
Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gadw ein dinas yn lân ac yn rhydd o wastraff ac mae ganddo bolisi dim goddefgarwch yn erbyn unrhyw un a geir yn tipio anghyfreithlon.