Dyfarnwyd y contract i'r cwmni o Gymru, Wynne Construction, ac fe wnaeth cynrychiolwyr y cwmni gwrdd ag uwch wleidyddion a swyddogion y cyngor cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle.
Bydd yn un o’r canolfannau hamdden sero net gyntaf yn y DU sy'n cael ei phweru'n gyfan gwbl gan drydan o ffynonellau adnewyddadwy a disgwylir iddi agor i'r cyhoedd yn 2026.
Daw dros 55 y cant o gost y ganolfan hamdden newydd o gyllid allanol gan gynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.
Wedi'i leoli ar lan yr afon yng nghanol y ddinas, bydd yn cynnwys pwll hamdden modern gydag elfennau hwyliog gan gynnwys "afon araf", llithrennau ac offer chwarae.
Bydd pwll addysgu hefyd ar gyfer gwersi nofio a sesiynau ymarfer corff i blant, cyfleusterau newid modern, caffi ac ardal ymlacio, ystafell ffitrwydd, a lle gweithredol mawr ar gyfer defnydd cymunedol, gweithgareddau grŵp a phartïon pen-blwydd plant.
Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Dyma un o'r datblygiadau newydd mwyaf disgwyliedig yn y ddinas a bydd yn darparu cyfleusterau nofio a hamdden newydd gwych yn agos at ganol y ddinas.
“Bydd yn fan cymunedol i drigolion o bob oed, lle gall pobl gynnal a gwella eu lles, a gall pobl ifanc gael hwyl mewn amgylchedd diogel.”
Dywedodd y Cynghorydd Emma Corten, Aelod Cabinet dros ddiwylliant a chyfathrebu: “Mae'n newyddion gwych bod y gwaith yn dechrau ar y prosiect cyffrous hwn. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn dwyn ffurf a byddwn yn sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi fel y gall preswylwyr ddilyn y cynnydd ar greu canolfan hamdden a lles yr 21ain ganrif y mae mawr ei heisiau.”
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o'r prosiect trawsnewidiol hwn ar gyfer Casnewydd. Gan gydweithio'n agos â thîm y Cyngor a'n partneriaid, ein nod yw darparu'r cyfleuster arloesol hwn sy'n hyrwyddo hamdden a lles i'r gymuned."
"Fel ein holl brosiectau o ansawdd uchel, mae gwerth cymdeithasol yn ganolog i'n cenhadaeth. Bydd y datblygiad hwn yn diogelu tua 400 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, gyda nod i 40 y cant o'r gweithlu fod yn lleol. Y tu hwnt i greu swyddi, rydym hefyd wedi ymrwymo i feithrin ymgysylltiad cymunedol ac arferion cynaliadwy o fewn ein cadwyn gyflenwi, gan sicrhau bod y prosiect yn gadael effaith barhaol, gadarnhaol yn y rhanbarth."
Mae’r cwmni gwasanaethau proffesiynol amlddisgyblaethol WSP yn rheoli'r prosiect ac wedi bod yn hanfodol wrth gynnal asesiad risg cynhwysfawr cyn y gwaith adeiladu, gan gydweithio'n agos â'r cyngor i fynd i'r afael â risgiau posibl a sicrhau amgylchedd adeiladu diogel a chydymffurfiol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt Ross Williams: "Rydym yn falch o gefnogi Cyngor Dinas Casnewydd i ddod â'r cyfleuster cynaliadwy hwn, sydd o ansawdd uchel, i'r gymuned. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau dull diogel, effeithlon a chydlynol o ddarparu canolfan o'r radd flaenaf, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn gwasanaethu preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd am flynyddoedd i ddod."
Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi sy'n darparu miliynau o bunnoedd i adfywio canol trefi yng Nghymru.
Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymuned Cymru, ac mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi wedi ymrwymo i wasanaethu a chysylltu'r bobl sy'n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio amser hamdden ynddynt.