Gŵyl Fwyd Casnewydd estynedig yn dychwelyd am yr ail flwyddyn

Bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd yn cael ei chynnal unwaith eto ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul eleni.
Musicians playing on stage at Newport Food Festival / Cerddorion yn chwarae ar lwyfan Gŵyl Fwyd Casnewydd.

Ar ôl y farchnad fwyd draddodiadol ac arddangosiadau gan gogyddion ar y dydd Sadwrn, bydd y Stryd Fawr yn llawn cerddoriaeth fyw a bwyd stryd ddydd Sul 13 Hydref.

Bydd yn dechrau am 11am, a chewch fwynhau perfformiadau byw gan fandiau gan gynnwys Eurekas, Tom Anthony, Hair Dye, The Serene Scene, Upstairs at Hannah’s, Tears for Beers a Taffy Was a Thief, sy’n dychwelyd am yr ail flwyddyn.

Wrth ymlacio a mwynhau'r gerddoriaeth, gallwch hefyd fwynhau bwyd stryd blasus gan werthwyr poblogaidd sy'n cynnig amrywiaeth o fwydydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfathrebu, y cynghorydd Emma Corten: “Daeth gŵyl fwyd y llynedd â sblash o liw a hwyl i'r ddinas - nid yn unig ar y dydd Sadwrn, ond ar y dydd Sul hefyd.

“Rwy'n edrych ymlaen at ddigwyddiad arall ar ddydd Sul a fydd yn llawn dop o fwyd stryd, bandiau a gweithgareddau i ddiddanu pobl o bob oed.”

Bydd y Corn Exchange yn cynnal disgo i blant rhwng 12pm a 4pm ar gyfer pobl ifanc sy’n ymweld â’r ŵyl. Os nad yw dawnsio yn mynd â’ch bryd chi, bydd Marchnad Casnewydd yn dangos ffilmiau ar thema bwyd drwy gydol y dydd, gan ddechrau am 11am.

Gallwch ddarganfod mwy am y bandiau sydd ymlaen ar ddydd Sul yma newportfoodfestival.co.uk.