Lansio cynllun mannau diogel

Gall pobl agored i niwed sy'n teimlo ar goll neu'n ofidus ddod o hyd i hafan ddiogel mewn nifer o adeiladau o amgylch y ddinas sy'n arddangos sticer Mannau Diogel.
Councillor Laura Lacey and Councillor Yvonne Forsey at launch of Safe Places scheme in Tredegar Park

Gan weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Heddlu Gwent, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflwyno'r cynllun. 

Bydd sefydliadau a busnesau sy'n cymryd rhan yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed os oes angen cymorth arnynt drwy gysylltu â pherson enwebedig, cynnig cyngor neu ffonio 101 os yw'n briodol. 

Mae gwasanaethau lle mae gwiriadau GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) eisoes ar waith eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae eraill, gan gynnwys busnesau bach, yn cael eu gwahodd i ymuno yn amodol ar wiriadau bod y ddarpariaeth yn bodloni safonau diogelu priodol. 

Mae Mannau Diogel yn gynllun cenedlaethol sydd yng Nghasnewydd yn cael ei reoli gan y tîm plant anabl ond sydd ar agor i oedolion a phobl ifanc. 

Gall pobl sy'n teimlo y byddent yn elwa o'r cynllun ofyn am gerdyn arbennig a fydd yn rhoi manylion pwy y gellir cysylltu â nhw os oes angen cymorth arnynt, ond gall unrhyw berson agored i niwed ofyn am help gan un o'r mannau diogel.

Cafodd Chloe hyfforddiant teithio gan y tîm a dwedodd bod y cynllun Mannau Diogel yn rhoi ymdeimlad o gymuned i bobl.

"Dwi'n meddwl bod e'n beth da, mae'n rhoi mwy o hyder i fi deithio ar ben fy hun ac yn gwneud i fi deimlo'n fwy diogel yn fy annibyniaeth.  Bydd yn dod â phobl at ei gilydd ac yn rhoi lle i fynd i'r rhai sydd mewn angen heb beri straen.

Dwedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, yr aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae adborth Chloe yn dangos bod y cynllun hwn yn bwysig i annibyniaeth pobl gan y bydd yn gwneud i bobl deimlo’n fwy saff a diogel pan fyddant allan ar eu pennau eu hunain.

"Hoffwn ddiolch i'r tîm plant anabl am eu gwaith yn codi’r cynllun ar ei draed a phawb sydd eisoes wedi gwirfoddoli i ddod yn fan diogel. Rwy’n gobeithio y bydd mwy yn ymuno. 

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n teimlo y byddent yn elwa o'r cynllun Mannau Diogel i wneud cais am gerdyn. Mae'r cerdyn yn cynnwys manylion cyswllt brys, a gwybodaeth arall y gall gwirfoddolwyr y Mannau Diogel ei chael yn ddefnyddiol wrth ddarparu cymorth, a gellir ei gadw mewn waled neu bwrs."

Bydd y cynllun newydd yn ategu Protocol y Drindod sy'n cael ei weithredu gan Heddlu Gwent. Mae hyn yn caniatáu person ifanc neu aelod o'r teulu i gofnodi eu manylion fel y bydd yr heddlu yn deall y ffordd orau i'w cefnogi os ydynt yn ymgysylltu â nhw am unrhyw reswm. 

Gall Protocol y Drindod gynorthwyo swyddogion wrth addasu eu dull yn briodol i anghenion y person ifanc y maen nhw’n gysylltiedig ag ef/hi.

I wneud cais am gerdyn neu i holi am ddod yn rhan o'r cynllun, ynweld https://www.casnewydd.gov.uk/cy/Care-Support/Mannau-Diogel.aspx e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 414745