Mae cyfleusterau Parc Tredegar Newydd yn ychwanegu sblash o hwyl i'r haf

Agorwyd Sblash Newydd, ardal chwarae dŵr newydd Casnewydd, ac ardal chwarae plant well y prynhawn yma gan arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dimitri Batrouni.
Dimitri Batrouni at Splash 'Port opening/Dimitri Batrouni yn Splash' Port yn agor

Daeth llawer o ymwelwyr i'r agoriad cyhoeddus, ac mae'r cyfleusterau newydd eisoes wedi cael croeso mawr gan y rhai a oedd ymhlith y cyntaf i roi cynnig arnynt yn gynharach heddiw.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad lansio, dywedodd y Cynghorydd Batrouni: "Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn ymuno â ni y prynhawn yma i agor y cyfleusterau newydd, sy'n edrych yn wych!"

"Pan ofynnon ni i drigolion pa welliannau roedden nhw am eu gweld yn y parc, roedd hi'n amlwg bod ardal chwarae dŵr newydd ac ardal chwarae well yn ddewisiadau poblogaidd.

"Does gen i ddim amheuaeth felly y bydd y cyfleusterau newydd yn brysur iawn dros weddill yr haf a thu hwnt!"

Mae Sblash Newydd yn cynnwys 26 o nodweddion chwistrellu dŵr gwahanol a bwced tipio dŵr enfawr. 

Oriau agor Sblash Newydd yw 10am-5pm o 1 Ebrill i 30 Medi bob blwyddyn.

Ni fydd ar agor yn ystod cyfnodau o dywydd gwael iawn, fel glaw trwm neu stormydd o daranau, felly gwiriwch ragolygon y tywydd cyn i chi fynd i’r parc!

Bydd sesiynau hamddenol i blant ag anghenion ychwanegol ar gael bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan ddechrau dydd Llun (12 Awst). 

Bydd y rhain 10am-11am yn ystod gwyliau'r ysgol, ac 11am-12pm yn ystod y tymor.

Mae cyfleusterau newid newydd ar gyfer Sblash Newydd ar gael yn yr ystafell newid a'r bloc toiledau presennol

Mae gan yr ardal chwarae plant well ystod o offer chwarae newydd sbon, gan gynnwys sawl set o siglenni, byrddau rhyngweithiol, rhwydi dringo, fframiau aml-chwarae a chylchfannau cwbl hygyrch.

Mae hefyd ardal chwarae tywod gyda ffrâm ddringo fach ac offer palu, yn ogystal ag ardal chwarae newydd i blant bach ac ardal bicnic newydd.

Mae'r ardal chwarae hefyd wedi cael arwyneb newydd i ddelio â thywydd ansefydlog Cymru.

Y cyfleusterau newydd yw'r cyntaf mewn cyfres o welliannau arfaethedig ym Mharc Tredegar, sydd hefyd yn cynnwys gwaith i gynyddu lle parcio ceir a throsi'r hen borthdy yn gyfleuster caffi newydd. 

Bydd gwaith ar lwybr newydd a mynediad ramp o Sblash Newydd i’r bloc ystafelloedd newid hefyd yn dechrau yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: "Dim ond y camau cyntaf yn ein cynllun i drawsnewid Parc Tredegar yw'r gwelliannau hyn.

"Roeddem yn falch iawn o gael cymaint o ymgysylltiad cadarnhaol pan ofynnon ni i drigolion pa welliannau yr hoffent eu gweld i'r parc.

"Rydyn ni'n gweithredu ar yr adborth hwnnw, ac yn creu parc rydyn ni'n gobeithio y bydd Casnewydd gyfan yn falch ohono!"