Y ddinas i groesawu penwythnos o fwyd ac adloniant

Mae gŵyl fwyd boblogaidd Casnewydd yn dychwelyd ym mis Hydref eleni gyda phenwythnos arall o hwyl a bwyd i'r teulu cyfan.
Newport High Street during the Food Festival, with stalls and people / Stryd Fawr Casnewydd yn ystod yr Ŵyl Fwyd, gyda stondinau a phobl.

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl estynedig yn 2023, cynhelir yr ŵyl eleni dros benwythnos dydd Gwener 11 i ddydd Sul 13 Hydref. 

Nos Wener bydd gwesty clodwiw’r Mercure yn cynnal swper yr ŵyl fwyd am yr ail flwyddyn yn olynol. Gyda bwydlen wedi'i chreu gan noddwr yr ŵyl fwyd a’r deiliad seren Michelin, Hywel Jones, cogydd gweithredol yng ngwesty a sba Lucknam Park, mae'n sicr o fod yn noson bleserus i bawb! 

Bydd canol y ddinas yn dod yn fyw ar y dydd Sadwrn ar gyfer y farchnad fwyd boblogaidd lle bydd masnachwyr yn leinio’r strydoedd yn cynnig amrywiaeth o fwyd a samplau - digon i dynnu dŵr o’r dannedd. Bydd yna Bentref Figan hefyd yn Sgwâr John Frost, wedi’i drefnu gan Friars Walk.

Bydd Marchnad Casnewydd yn cynnal yr arddangosiadau coginio unwaith eto, gan ddechrau gyda’r gystadleuaeth Cogyddion Ifanc gydag Academi Ieuenctid Casnewydd. Bydd rhai o'r cogyddion lleol gorau hefyd yn arddangos prydau blasus trwy gydol y dydd a gallwch hyd yn oed flasu eu creadigaethau! 

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd y dydd Sul yn parhau â'r thema bwyd ac adloniant. Bydd yna fasnachwyr bwyd stryd, cerddoriaeth fyw ac adloniant ar y Stryd Fawr, yn dod â sblash o liw a naws carnifal i’r digwyddiad.

I'r ymwelwyr iau, bydd y Gyfnewidfa Ŷd yn cynnal disgo i blant. 

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae enw da Casnewydd fel rhywle lle gall pobl fwynhau bwyd ac adloniant gwych yn tyfu'n gyflym - ac mae'r ŵyl fwyd wrth wraidd hynny.  Mae canol y ddinas yn llawn llefydd gwych i fwyta a chymdeithasu gyda ffrindiau, neu gyda'r teulu - a digon i'w wneud yn ddiwylliannol, gan gynnwys ein lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad a llawer mwy! 

"Mae Casnewydd yn datblygu enw da fel rhywle lle gall pobl gael bwyd gwych a mwynhau dewisiadau hamdden ac adloniant arbennig - gan gynnwys ein lleoliadau cerddoriaeth annibynnol.

"Bydd rhywbeth i bawb yn yr ŵyl eleni, ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o'r panel beirniadu ar gyfer y gystadleuaeth Cogyddion Ifanc.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'n cefnogwyr a'n noddwyr am eu holl waith caled y tu ôl i'r llenni a thros benwythnos yr ŵyl." 

Bydd manylion pellach ar gyfer y penwythnos yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.  Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a'r wefan www.newport.gov.uk/newportFoodFestival/cy/ am y wybodaeth ddiweddaraf.