Yn yr adran hon
Gall unrhyw un sy’n profi digartrefedd gael cymorth, cyngor a gwybodaeth gan dîm cyngor ac atal tai’r cyngor.
Gall y cyngor gynnig llety dros dro i unrhyw un yr ydym yn ymwybodol o gysgu allan.
Mae Llyfrgell Ganolog Casnewydd, Sgwâr John Frost yn gweithredu gwasanaeth galw heibio ar gyfer y rheini sy’n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd angen cyngor ar dai.
Mae'r gwasanaeth galw heibio ar gael ar gyfer asesiadau digartrefedd ac ymholiadau cofrestr tai o ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a ddydd Gwener 9am-1pm a 2pm-4pm a dydd Mawrth 9am-1pm.
Os ydym eisoes yn eich cefnogi fel rhywun digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â'ch swyddog achos yn uniongyrchol trwy e-bost neu ffôn.
E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 (gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael).
Cefnogaeth
Rhoi gwybod am fanylion unigolion sy'n cysgu allan gan ddefnyddio gwefan neu ap Streetlink. Anfonir yr holl adroddiadau i'r cyngor.
Mae cymorth iechyd meddwl ar gael ar wefan MIND neu dros y ffôn ar 0300 123 3393.
Mae cymorth a chwnsela iechyd meddwl arbenigol hefyd ar gael trwy asiantaethau partner a gwasanaethau iechyd sy'n cefnogi'r rhai sy'n cysgu allan.
Porth Cymorth
Gellir cyflwyno ceisiadau am dai â chymorth a chymorth fel y bo'r angen ar y porth cymorth.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.
Grant cymorth tai
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn grant cymorth tai o tua £9 miliwn bob blwyddyn gan lywodraeth Cymru.
Mae'r grant yn darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl agored i niwed sy'n byw yn y ddinas.
Nod y grant yw atal digartrefedd a helpu pobl i ddatblygu a chynnal y sgiliau angenrheidiol i fyw'n annibynnol.
Mae'r cyllid hwn yn cefnogi tua 2,000 o bobl agored i niwed yng Nghasnewydd.
Cefnogaeth i helpu pobl:
- rheoli a dod o hyd i lety
- atal digartrefedd
- hawlio budd-daliadau a rheoli dyledion/biliau
- cyllideb
- cyngor ar ddiogelwch yn y cartref
- cysylltu â meddygon neu weithwyr cymdeithasol
- mynediad at addysg, cyflogaeth, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant
Opsiynau Cartref Casnewydd
Cyhoeddir hysbysebion Wythnosol Opsiynau Cartref Casnewydd bob dydd Gwener.
Bydd y gymdeithas dai yn cysylltu'n uniongyrchol â chi os cynigir eiddo i chi.
Gellir cyflwyno ceisiadau am dai ar wefan Home Options.
Gellir anfon unrhyw ymholiadau drwy eich cyfrif Home Options neu ffoniwch (01633) 656656.
Dogfennau
- Adolygiad digartrefedd Gwent 2018.pdf (PDF, 3.17 MB) Lawrlwythwch
- Strategaeth ddigartrefedd Gwent 2018.pdf (PDF, 412.86 KB) Lawrlwythwch
- Rhaglen Strategaeth Cymorth Tai 2022 – 2026.pdf (PDF, 223.62 KB) Lawrlwythwch
- Cyfeiriadur Gwasanaethau Cymorth Tai yng Nghasnewydd 2024-25.pdf (PDF, 586.34 KB) Lawrlwythwch
- Gweithgareddau caniataol grant cymorth tai Gwent.pdf (PDF, 368.65 KB) Lawrlwythwch
- Grant cymorth tai 2022-2025.pdf (PDF, 511.05 KB) Lawrlwythwch
- Hysbysiad preifatrwydd - Ddigartrefedd.pdf (PDF, 202 KB) Lawrlwythwch
- Hysbysiad preifatrwydd - Opsiynau Tai.pdf (PDF, 205.37 KB) Lawrlwythwch