Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu benthyciadau gwella a chymorth addasu tai i breswylwyr cymwys.
Gofal a Thrwsio Casnewydd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio Casnewydd, sy'n cynnig cyngor a chymorth i breswylwyr sy'n 60 oed + ac yn berchnogion tai preifat neu'n denantiaid sy’n rhentu’n breifat.
Mae eu gwasanaethau’n cynnwys:
- cyngor ar wella ac atgyweirio cartrefi
- addasiadau ar gyfer pobl hŷn ac anabl
- cymorth a chyngor ar gadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn annibynnol yn eich cartref
Darllenwch fwy ar wefan Gofal a Thrwsio Cymru.