Mae landlordiaid a thenantiaid yn gyfrifol am gadw eiddo mewn cyflwr da.
Dylai tenantiaid ddweud wrth eu landlord am unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen ar yr eiddo. Ar ôl cael gwybod am waith sydd ei angen, dylai landlordiaid archwilio a gwneud unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol.
Efallai y byddwn yn gallu cynnig help a chyngor os yw landlord yn anwybyddu cais tenant neu'n gwrthod gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol.
Os bydd yn rhaid i ni ymweld ag eiddo byddwn yn defnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai i wneud asesiad.
Mae gweithdrefnau gorfodi ar gael pan fo camau anffurfiol yn aflwyddiannus neu'n amhriodol.
Gwasanaethau archwilio
Cysylltwch â ni i ofyn am un o'r gwasanaethau hyn:
- mân gwynion gan denantiaid - byddwn yn cwrdd â'r tenant ac yn ysgrifennu at y landlord os bydd angen
- archwiliadau cyn trwyddedu tai amlfeddiannaeth
- cais perchennog am archwiliad/arolwg eiddo (£209.00 o 1 Ebrill 2022)
- archwiliadau llety mewnfudo
Diogelwch nwy
Os ydych yn arogli nwy, ffoniwch y rhif rhadffôn argyfwng nwy cenedlaethol ar unwaith 0800 111 999.
Dylech:
- agorwch y drysau a’r ffenestri er mwyn awyru’r eiddo
- diffoddwch yr offeryn nwy a datgysylltu'r nwy trwy ddiffodd y cyflenwad wrth y falf rheoli argyfwng ar y mesurydd nwy
- gadewch yr offeryn wedi’i ddiffodd nes ei fod wedi'i wirio gan beiriannydd sydd wedi’i gofrestru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy a'ch bod yn derbyn cadarnhad bod yr offeryn yn ddiogel i'w ddefnyddio
- diffoddwch yr holl fflamau noeth
- cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich ysbyty lleol os ydych yn teimlo'n sâl
Peidiwch â diffodd unrhyw oleuadau na defnyddio unrhyw offer
Cysylltwch â pheiriannydd sydd wedi’i gofrestru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy i wirio a thrwsio'r offeryn neu ffoniwch 0800 408 5500.
Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw defnyddiwch ffôn testun neu finicom ar 0800 371 787.
Carbon monocsid
Nid oes gan garbon monocsid (neu CO) arogl, lliw na blas a gall ladd yn gyflym. Bydd y camau hyn yn helpu i amddiffyn rhag gwenwyn CO.
Gwybod y symptomau
Mae’r symptomau’n cynnwys pen tost, pendro, cyfog, diffyg anadl, cwymp, a cholli ymwybyddiaeth.
Efallai y bydd gwenwyn CO lefel isel cronig yn cael ei gamgymryd am ffliw a gwenwyn bwyd.
Gofalwch am eich offer cartref
Dylai offer llosgi tanwydd gael eu gwasanaethu'n rheolaidd gan weithiwr proffesiynol cofrestredig. Gallai offer gynnwys boeleri, poptai, stofiau, llosgwyr coed neu wresogyddion.
Prynwch larwm carbon monocsid
Gall y rhain gostio ychydig iawn. Gosodwch a phrofwch y larwm/larymau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.