Rhentu Cartrefi
Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Ers mis Rhagfyr 2016, mae'r ddeddf wedi newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan llywodraeth Cymru.
Fforymau landlordiaid
Mae croeso i bob landlord, asiant, neu gynrychiolydd asiantaeth fynychu cyfarfodydd fforwm landlordiaid.
Gallwch e-bostio [email protected] i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio a derbyn y newyddion diweddaraf.
Nodwch a ydych yn ymateb fel:
- landlord
- asiant rheoli
- perchennog meddiannwr
- cymdeithas dai neu denant
Ar gyfer cyfarfodydd sydd ar ddod a mwy o wybodaeth, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.