Mae cynlluniau ar gael a all eich cefnogi fel landlord. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am eiddo o wahanol feintiau a mathau ar draws Casnewydd. 

Os hoffech chi drafod unrhyw un o'r opsiynau isod, anfonwch ebost at [email protected].

Cynllun Prydlesu Cymru 

Mae Cynllun Prydlesu Cymru (GCD) yn cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol.

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid yn y sector rhentu preifat (PRS) brydlesu eu heiddo i'r awdurdod lleol. Mae hyn yn gwarantu incwm rhent misol a gwasanaethau rheoli eiddo llawn am rhwng pump ac 20 mlynedd. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • incwm rhent misol gwarantedig
  • gwasanaeth rheoli eiddo llawn (gan gynnwys atgyweiriadau ac archwiliadau)
  • prydlesi rhwng pump ac 2-0 mlynedd

Mae grantiau hyd at £5000 ar gael i ddod ag eiddo i fyny i’r safon, a/neu i gynyddu’r sgôr EPC i C.

Ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers chwe mis, mae grantiau o hyd at £9,999 ar gael ar gyfer prydlesi pum mlynedd. Mae hyn yn cynyddu hyd at £25,000 ar gyfer prydlesi hirach.

Os hoffech drafod y cynllun, e-bostiwch [email protected]. Gallwch hefyd fynd i wefan Cynllun Prydlesu Cymru.

Cynllun prydlesu'r sector preifat

Mae’r cyngor yn gweithredu cynllun prydlesu'r sector preifat. Defnyddir eiddo a brydlesir o dan y cynllun fel llety dros dro ar gyfer aelwydydd digartref.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i'r cyngor am o leiaf 12 mis am rent gwarantedig. Telir y rhent bob chwarter ymlaen llaw, p'un a yw'r eiddo wedi'i feddiannu ai peidio.

Bydd ein tîm rheoli tenantiaeth ymroddedig yn:

  • rheoli'r eiddo 
  • cynnal archwiliadau eiddo rheolaidd
  • gwneud gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd
  • sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd i chi ar ddiwedd y brydles mewn cyflwr rhesymol, heb unrhyw draul

Ni fydd angen i chi dalu'r dreth gyngor ar yr eiddo yn ystod cyfnod y brydles ac ni fyddwch yn gyfrifol am filiau cyfleustodau. 

Eiddo

Mae'r cynllun Prydlesu Sector Preifat (PSP) yn cael ei reoli gan ein tîm anghenion tai. Os oes gennych eiddo gwag yng Nghasnewydd a bod gennych ddiddordeb mewn ei brydlesu i'r cyngor, cysylltwch â'r tîm tai trwy anfon ebost at [email protected]

Bydd y tîm yn holi a oes angen y math hwn o eiddo. Os yw'r eiddo o ddiddordeb i'r portffolio PSP, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i'r tîm anghenion tai. Byddant yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.

Os oes gennych forgais ar yr eiddo, bydd angen i chi wirio unrhyw ofynion sydd gan eich cwmni morgais. Byddwch angen yswiriant landlordiaid arnoch hefyd.

Mae'r gofynion yn newid yn ôl pwysau.