Mae Sipsiwn a Theithwyr yn grŵp ethnig lleiafrifol cydnabyddedig. 

Mae llawer o Sipsiwn a Theithwyr yn dal i fyw mewn carafanau. Mae eraill yn dewis llety brics a morter. 

Safleoedd awdurdodedig

Mae nifer o safleoedd awdurdodedig preifat i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghasnewydd. 

Mae angen caniatâd cynllunio cyn y gall unrhyw un ddatblygu a symud i safle preifat. Dylid adrodd am safleoedd sydd wedi'u datblygu heb ganiatâd i'n tîm cynllunio.  

Ellen Ridge 

Mae safle preswyl sy'n eiddo i'r cyngor yn Ellen Ridge, Ringland. Datblygwyd y safle yn unol â gofynion diwylliannol cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. 

Mae cyfleusterau'r safle yn cynnwys tri bloc amwynder ynghyd â chanolfan gymunedol. 

Mae gan bob llain lawr caled ar gyfer parcio cartref symudol. Mae parcio dynodedig hefyd ar gyfer cerbydau modur. Mae cyfleusterau pwyntiau gwefru ar gael i ddarparu trydan i'r cartrefi symudol. 

Mae pob bloc amwynder yn cynnwys cegin/ardal fyw cynllun agored, ystafell amlbwrpas ac ystafell ymolchi. 

Gellir gwneud ceisiadau am lain ar wefan Home Options Newport. 

Gwersylloedd anawdurdodedig 

Dyma dir sy'n cael ei ddefnyddio gan Sipsiwn neu Deithwyr heb ganiatâd y perchennog. 

Mae’r cyngor wedi cofrestru gyda phrotocol Gwent gyfan ar reoli gwersylloedd anawdurdodedig. Mae hyn ynghyd â phartneriaid fel Heddlu Gwent. 

Diben y protocol yw:

  • cynnig canllawiau clir ar beth i’w wneud pan fydd hyn yn digwydd 
  • sicrhau bod gwersylloedd yn cael eu trin mewn ffordd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth 
  • cydbwyso hawliau’r rheini sy’n defnyddio’r gwersyll anawdurdodedig gyda hawliau preswylwyr a busnesau lleol
  • gweithredu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar beth i’w wneud pan fydd hyn yn digwydd 
  • hyrwyddo cydlyniad cymunedol ac atal Sipsiwn a Theithwyr rhag cael eu hallgáu yn gymdeithasol 

Gweithdrefn

Os yw'r gwersyll anawdurdodedig ar dir nad yw'n eiddo i'r cyngor, gallwn roi cyngor i'r tirfeddiannwr. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cymryd camau gweithredu. 

Os yw’r gwersyll ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor byddwn yn dilyn y weithdrefn ganlynol:  

  1. Ymweld â’r gwersyll cyn gynted â phosib i wneud asesiad am gyflwr a lleoliad y safle. Mae hyn yn cynnwys unrhyw broblemau y gallai eu hachosi i drigolion a busnesau lleol. Byddwn hefyd yn asesu anghenion lles y meddianwyr. 
  2. Bydd partneriaid perthnasol yn cael gwybod am y gwersyll. Yn seiliedig ar ein hasesiad cynharach, byddwn yn penderfynu a ddylid goddef y safle neu gymryd camau gweithredu i droi’r meddianwyr allan. 
  3. Os gwneir penderfyniad i’w oddef, rhoddir cod ymddygiad i’r meddianwyr ei ddilyn. Os nad ydynt yn dilyn hyn, mae’n bosib y gwneir penderfyniad i’w troi allan o’r gwersyll. 
  4. Os penderfynir eu troi allan o’r gwersyll, mae angen i'r cyngor wneud cais i'r llys. Mae hyn er mwyn cael gorchymyn ac esbonio pam na ellir goddef y gwersyll. Os cyflwynir gorchymyn, bydd hwnnw’n cael ei roi i’r gwersyll gan nodi erbyn pryd y mae'n rhaid i’r  meddianwyr adael. 

Cysylltwch â ni i roi gwybod am wersyll anawdurdodedig.

Asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr 

Mae Rhan 3 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gofyn i bob awdurdod lleol gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh). Rhaid iddynt ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. 

Mae ALlSTh Casnewydd, wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Fe'i defnyddir fel rhan o'r cynllunio i ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghasnewydd yn y dyfodol.

Cyngor a chymorth 

Os ydych chi’n Sipsi neu’n Deithiwr sy’n byw yng Nghasnewydd ac angen help i ddod o hyd i lety addas, cysylltwch â: