Trefnwch daliadau debyd uniongyrchol misol

Cofrestrwch i dalu drwy ddebyd uniongyrchol gyda'ch cyfeirnod treth y cyngor wyth digid a manylion eich cyfrif banc.

Dyfynnwch y cyfeirnod wyth digid a ddangosir ar gornel dde uchaf eich bil, maen dechrau gyda 3.

Pam defnyddio debyd uniongyrchol:

  • maen ffordd hawdd i ddalu
  • nid oes angen cofio talu
  • dewis o bedwar dyddiad talu - y 1af, 5ed, 12fed neu'r 20fed
  • gallech dewis talu eich bil blynyddol dros 10 neu 12 mis, neu 11 mis os byddwch yn dewis y 1af o'r mis

Gofynnwch am ffurflen bapur drwy gysylltu â  [email protected] .

Gwneud newidiadau i'ch debyd uniongyrchol

Gwneud newid i'ch debyd uniongyrchol  

Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer preswylwyr sydd eisoes yn talu drwy ddebyd uniongyrchol ac eisiau:

  • newid eich dyddiad talu.
  • newid o 10 i 11/12 taliad misol.
  • newid eich manylion banc.

Gwneud taliad ar-lein 

Gwnewch daliad ar-lein gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd, gyda'ch rhif treth gyngor wyth digid. Mae hwn i'w weld ar gornel dde uchaf eich bil treth gyngor.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we ar-lein ar gyfer y gwasanaeth treth y cyngor.

Gwnewch drosglwyddiad banc gan ddefnyddio'r manylion canlynol:

Rhif cyfrif: 05070406

Cod didoli: 09-07-20

Rhif cyfeirnod: eich rhif treth gyngor 8 digid

Mae llinell daliadau ar gael 24 awr y dydd, ffoniwch 01633 656656.

Talwch yn bersonol gydag arian parod mewn unrhyw siop PayPoint yn y DU neu gydag arian parod, siec neu gerdyn mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DU trwy ddangos eich bil neu gerdyn â chod bar i'r manwerthwr neu'r Swyddfa Bost.

Canfod lleoliad PayPoint DU neu Swyddfa Post  

Gellir postio sieciau i:

Treth y Cyngor

Blwch Post 886

Casnewydd

NP20 9LU

Ysgrifennwch gyfeirnod eich cyfrif a'ch cyfeiriad ar y cefn.

Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Casglu Incwm.

Cysylltwch â ni

Bydd llenwi ein ffurflen yn golygu y gallwn gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir a darparu ymateb yn gyflymach.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnod cyfrif treth gyngor wrth law cyn dechrau llenwi'r ffurflen - mae'n rhif wyth digid ac yn dechrau gyda thri digid.

Cysylltwch â ni