Mae'r dreth gyngor yn berthnasol i breswylwyr a pherchnogion anheddau domestig a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn berson atebol.

Mae'r dreth gyngor yn cyfrannu tua 23% o incwm Cyngor Dinas Casnewydd. Mae'n helpu i ariannu gwasanaethau ledled y ddinas.

Daw'r 77% arall o incwm y cyngor o grantiau'r llywodraeth a thaliadau eraill.

Mae'r cyngor yn casglu treth ar ran:

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • sawl cyngor cymuned

Bydd eich bil yn dangos faint sy'n mynd i bob un o'r rhain, a faint sydd ar gyfer y cyngor.

Bandiau prisio

Mae faint rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar y band prisio y mae eich cartref ynddo. Po isaf y band, y lleiaf y codir tâl arnoch.

Mae cyfanswm o naw band.

Mae'r swm gwirioneddol y byddwch yn ei dalu yn cael ei osod ym mis Mawrth bob blwyddyn.

Gweler y bandiau treth gyngor yng Nghymru ar wefan GOV.UK.

Gallwch ddefnyddio Asiantaeth y Swyddfa Brisio i chwilio am fandiau prisio cyfredol unrhyw eiddo rhestredig.

I herio eich band prisio, ewch i GOV.UK.

Cysylltwch â ni

Bydd llenwi ein ffurflen yn golygu y gallwn gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir a darparu ymateb yn gyflymach.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnod cyfrif treth gyngor wrth law cyn dechrau llenwi'r ffurflen - mae'n rhif wyth digid ac yn dechrau gyda thri digid.

Cysylltwch â ni