Mae anghenion dysgu ychwanegol, y cyfeirir atynt yn aml fel ‘ADY’, yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei gwneud yn anoddach i blentyn ddysgu o’i gymharu â phlant o’r un oedran. 

O fewn yr ystafell ddosbarth, efallai y bydd angen rhai arddulliau addysgu gwahanol.

Gall hyn gynnwys:

  • galluoedd
  • cryfderau
  • gwendidau
  • diddordebau'r plant

CADY

Mae CADY yn talfyriad o Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fe fydd un o’r rhain ym mhob ysgol.

Bydd y CADY yw:

  • cydlynu'r cymorth dysgu ychwanegol yn yr ysgol
  • cofnodi plant ag ADY a monitro eu cynnydd
  • rhoi gwybod i chi sut y bydd yr ysgol yn diwallu anghenion eich plentyn
  • bod yn gyfrifol dros bolisi ADY yr ysgol

Bydd newid yn y ffordd y mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi.

Newidiadau allweddol:

  • disodlir y term 'anghenion addysgol arbennig (AAA)’ gan 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)'
  • Gelwir Cydlynwyr Anghenion Addysg Arbennig (CAAA) yn Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)
  • bydd Gweithredu gan yr Ysgol/Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar, Ysgol/Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy yn diflannu
  • rhoddir i bob plentyn sydd ag ADY, sydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) ddogfen statudol newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU)
  • bydd Proffil Un Tudalen yn cael ei gyhoeddi i blant sydd ag ADY nad oes angen CDY arnynt
  • bydd cynlluniau addysg unigol (CAU) yn cael eu diddymu'n raddol
  • bydd CDU yn parhau hyd at 25 oed os bydd y person ifanc yn mynd ymlaen i addysg bellach

Bydd y system newid yn:

  • sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial llawn
  • gwella'r broses o gynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr o 0 i 25 oed sydd ag ADY
  • nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau
  • bydd gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus wrth nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan llywodraeth Cymru.